Un sy'n cael ei anrhydeddu ydi'r pianydd Llŷr Williams
|
Bum wythnos cyn i'r Eisteddfod Genedlaethol gael ei chynnal yn Sir Fflint a'r Cyffiniau, mae nifer o Gymry yn cael eu hanrhydeddu yn aelodau o Orsedd y Beirdd.
Ymhlith y rhai sy'n derbyn yr anrhydeddau eleni y mae'r pianydd Llŷr Williams, fydd yn perfformio mewn cyngerdd yn y pafiliwn yn ystod yr wythnos.
Enwau eraill sy'n cael eu hurddo er anrhydedd eleni ydi'r newyddiadurwr a'r awdur Byron Rogers; yr ymgynghorydd oncolegol yr Athro Bleddyn Jones; aelod o Gymdeithas Bêl-Droed Cymru Trefor Lloyd Hughes; y ffidlwr Eifion Price; Dyfrig John, rheolwr banc gyda'r HSBC; yr hyfforddwraig Gwenda John o Flaenffos a'r brifathrawes Rhiannon Lloyd.
Mae llai o bobl eleni yn cael eu hanrhydeddu, 16, o'i gymharu â'r 40 y llynedd.
Hefyd yn cael eu hanrhydeddu y mae enillwyr tair cystadleuaeth yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych y llynedd.
 |
Dwi wedi cael clod cryn dipyn tu allan i Gymru yn ddiweddar ond neis dod adre a chael y sylw
|
Fe wnaeth Manon Wyn o Gaernarfon ennill y Fedal Lenyddiaeth; Gwenno Mair Davies o Lansannan enillodd y Goron ac fe enillodd Eurig Salisbury o Aberystwyth y Gadair.
Dyma'r tro cyntaf i enillwyr yr Urdd dderbyn yr anrhydedd.
"Roedd llynedd yn flwyddyn dda, a mwy na'r cyffredin yn cael eu hurddo," meddai Cofiadur yr Orsedd, John Gwilym.
"Yr amcangyfri blynyddol ydi 50 i gyd ac mae'r nifer sy'n derbyn anrhydedd eleni yn is ond ar yr ochr arall mae mwy o bobl ifanc yn dod i mewn eleni.
"Fe fyddwn ni'n anrhydeddu enillwyr prifwyl yr Urdd ac mae'r rhestr yn edrych yn dipyn ifancach a bydd hyn yn cynorthwyo delwedd yr Orsedd."
Mae Llŷr Williams yn wreiddiol o Bentrebychan, Wrecsam, ac yn un o'r perfformwyr cerddorol gorau yng Nghymru.
Ffidlwr a phêl-droediwr
Mae wedi cael canmoliaeth anhygoel am ei berfformiadau ar y piano gydag adroddiadau yn ei ddisgrifio fel "dewin efo technegau anhygoel".
"Mae'n neis iawn cael yr anrhydedd yng Nghymru a chael y clod yn eich gwlad eich hun.
"Dwi wedi cael clod cryn dipyn tu allan i Gymru yn ddiweddar ond neis dod adre a chael y sylw ac roeddwn i'n falch o dderbyn yr anrhydedd.
Mae nifer yn cael eu hanrhydeddu i Orsedd y Beirdd eleni
|
"Mae'n arbennig iawn gan fod yr Eisteddfod yn Yr Wyddgrug, sy'n gymharol leol i mi."
Bu Byron Rogers yn golofnydd i'r Daily Telegraph, cyhoeddodd sawl cyfrol ac roedd yn un fu'n gyfrifol am sefydlu Cymdeithas Gwenllïan.
Byd y bêl sy'n mynd â bryd Trefor Lloyd Hughes o Gaergybi.
Yn ogystal â bod yn aelod o'r Gymdeithas Bêl-Droed mae hefyd yn flaenllaw mewn Llywodraeth Leol a gyda'r Gwasanaeth Ambiwlans yn Ynys Môn.
"Dwi wedi cael fy synnu a dweud y gwir," meddai.
"Wnes i erioed ddisgwyl cael ffasiwn beth ond yn ddiolchgar iawn i'r rhai sydd wedi fy nghefnogi dros y blynyddoedd, cydweithwyr, gweithwyr pêl-droed a ffrindiau.
"Dwi'n hynod o falch o dderbyn y ffasiwn anrhydedd."
Unig anrhydedd
Un sydd wedi diddori cynulleidfaoedd am flynyddoedd wrth chwarae'r ffidl ydi Eifion Price o Rydaman.
Mae nifer o ieuenctid yr ardal wedi elwa wrth iddo gyfeilio i bartïon dawnsio gwerin ac mewn nifer o Eisteddfodau.
Mae Alun Jones o Bow Street, Aberystwyth, yn feirniad llefaru cenedlaethol ac mae hefyd yn Brif Arholwr Safon Uwch Cymraeg.
"Fel Cymro Cymraeg, dyna'r unig anrhydedd y gallwn ei dderbyn a dwi'n falch o gael y wisg wen yn naturiol ac yn diolch i'r Orsedd am hynny," meddai.
Erbyn hyn mae Rhiannon Lloyd o Landudoch yn brifathrawes Ysgol Gyfun Glantaf, Caerdydd, ar ôl oes o wasanaeth i addysg Gymraeg.
Bu'n Arolygydd ei Mawrhydi am gyfnod cyn derbyn y brifathrawiaeth.