Mae llai nag 20 o ddisgyblion yn Ysgol Mynyddcerrig
|
Bydd un o ysgolion bach Sir Gaerfyrddin yn cau mewn misoedd.
Er i rieni ac ymgyrchwyr brotestio yn erbyn cau mae cynghorwyr wedi penderfynu cau Ysgol Mynyddcerrig yng Nghwm Gwendraeth.
Roedd y penderfyniad yng nghyfarfod bwrdd gweithredol y cyngor sir ddydd Mawrth.
Nid yn unig rhieni oedd yn erbyn y bwriad ond Cymdeithas yr Iaith.
Mae'r gwrthwynebwyr wedi dweud y byddan nhw'n apelio ac felly Gweinidog Addysg y Cynulliad, Jane Davidson, fydd ā'r gair ola.
Ers dwy flynedd mae ansicrwydd wedi bod am ddyfodol yr ysgol lle mae 15 o ddisgyblion.
'Tynged'
Dywedodd ymgyrchwyr fod y cyngor wedi anwybyddu teimladau pobol leol ond mae'r cyngor wedi gwadu y mae'r awdurdod.
"Mae'n dangos fod tynged yr ysgol wedi ei phenderfynu ymlaen llaw o safbwynt y cyngor ac mai ffars oedd yr ymgynghori honedig," meddai Gwenno Teifi ar ran y gymdeithas.
"Ni wnaeth gwrthwynebiad unedig rhieni, athrawon, llywodraethwyr na'r gymuned leol unrhyw wahaniaeth iddyn nhw, na barn yr ysgol gyfagos, Bancffosfelen."
Mae plant a rhieni wedi cynnal protest yn erbyn y cynlluniau
|
Un ymataliodd rhag pleidleisio ddydd Mawrth oedd y cynghorydd lleol, Wyn Evans, a dirprwy arweinydd y cyngor.
"Fy nhad-cu oedd yr un noddodd yr ysgol yma dros 100 mlynedd yn ōl ac mewn tair cenhedlaeth mae'n amlwg mai fi falle fydd yn gyfrifol am ei chau.
"Mae'n ddiwrnod trist iawn.
"Ac mae hi wedi bod yn ysgol dda iawn gyda dros 100 o blant yno ar y dechrau ..."
"Ond os nag o's plant 'da chi allwch chi ddim cadw ysgol wag."
Mae gan Gyngor Sir Gaerfyrddin raglen 10 mlynedd sy'n anelu at leihau lleoedd gwag a gwella adeiladau ysgolion.
Gallai hyn olygu y bydd hyd at 32 o ysgolion yn cau ac ysgolion ardal yn cael eu creu yn eu lle.
Mae cynghorau eraill Cymru yn adolygu eu hysgolion oherwydd lleoedd gwag.