BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 26 Mehefin 2007, 19:53 GMT 20:53 UK
100 mlynedd ers agor gorsaf
Gorsaf trydan dŵr Dolgarrog
Mae'r orsaf yn allweddol i rwydwaith gorsafoedd npower

Mae un o orsafoedd trydan dŵr mwyaf Cymru'n dathlu ei chanmlwyddiant ddydd Mawrth.

Erbyn hyn mae safle Dolgarrog yn Nyffryn Conwy yn rhan hanfodol o rwydwaith gorsafoedd pŵer Prydain.

Mae 30 o bobl yn cael eu cyflogi yno.

Cafodd y gwaith trydan dŵr ei sefydlu yn 1907 i gyflenwi gwaith alwminiwm y pentref.

Bellach mae'n defnyddio rhwydwaith o bum cronfa dŵr yn y mynyddoedd uwchlaw i gynhyrchu trydan.

Roedd trychineb fawr yn y 1920au.

Ym mis Tachwedd 1925 bu damwain wrth i argae Llyn Eigiau chwalu.

Bu farw 16 o bobl, gan gynnwys 6 o blant, yn y gyflafan

Buddsoddiad

Mae'r creithiau i'w gweld hyd heddiw ac fe lifodd miloedd o alwyni o ddŵr i lawr y dyffryn ac i'r pentre tair milltir i ffwrdd.

Un sydd wedi gweithio yn yr orsaf am bron i 30 mlynedd ydi Howell Humphreies.

Yr argau yn chwalu uwchben Dolgarrog
Cafodd 16 o bobl eu lladd yn y drasiedi yn 1925

Dywedodd ei fod wedi gweld newidiadau mawr, wrth i'r perchnogion presennol - npower renewables - fuddsoddi'n helaeth ar y safle.

"Pan ddes i yma gynta roedd y peiriannau yma ers 1924.

"Ond mae popeth wedi newid, y peiriannau yn newydd rwan ac mae'r cyfrifiaduron yn gwneud lot o'r gwaith," ychwanegodd.

I nodi'r 100 oed cafodd llechen arbennig ei dadorchuddio yn yr orsaf ac mae pum llun arbennig wedi eu gwneud gan yr artist lleol Jean Morgan Roberts.

Fe fydd y lluniau yma i'w gweld yn yr orsaf.

Mae'r rheolwyr yn credu bod y dyfodol yn un llewyrchus i'r orsaf.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^