BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 5 Ionawr 2007, 18:26 GMT
Meddygfa'n gosod fideo ar y we
Gwybdoaeth am asthma ar y wefan
Gwybodaeth gan y feddygfa ar y wefan

Meddygfa yng nghanolbarth Cymru sydd wedi gosod cyfres o ffilmiau ar wefan YouTube.

Mae'r ffilmiau yn rhan o gyfres addysg iechyd.

Fel arfer ar gyfer dangos ffilmiau cartref mae'r wefan yn cael ei defnyddio.

Ymhlith y pynciau sydd ar gael gan feddygfa Buallt yn Llanfair-ym-Muallt ym Mhowys y mae gwybodaeth am frechiad ffliw a sgrinio serfigol.

Dywedodd y meddygon eu bod eisiau addysgu 7,700 o gleifion a chynulleidfa ehangach.

Y llynedd fe wnaethon nhw lansio cyfres podio i gynghori cleifion.

Dywedodd Dr Richard Walters, fu'n cynorthwyo i ddatblygu'r prosiect, bod y feddygfa fel arfer yn cyhoeddi taflenni i gynghori cleifion ond bod newid byd ar droed.

Mwy o wybodaeth

"Mae 'na lawer o bethau sydd angen eu hegluro wrth gleifion ond sy'n anodd mewn taflenni.

"Gwylio fideo cyflym efallai ydi'r ffordd orau."

Gallai cyngor meddygol ar y we fod yn gymorth i leihau'r angen i deithio o fewn yr ardal wledig, i weld y meddyg.

Pynciau eraill sydd ar gael ydi asthma, profion gwaed a phrofion siwgr.

Mae'r feddygfa yn gobeithio ychwanegu mwy o wybodaeth bob mis.

Mae modd lawrlwytho'r clipiau i beiriannau MP3 o wefan y feddygfa.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^