BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 5 Ionawr 2007, 17:01 GMT
Brwydr gam yn nes
Pwll glo
Dywed yr undeb fod degau o filoedd o gyn lowyr yn diodde o wynegon ar y penglin

Mae miloedd o lowyr sy'n diodde o lid cymalau yn y pengliniau wedi cael hawl i barhau 'u brwydr gyfreithiol am iawndal.

Roedd cais am orchymyn cyfreithiad wedi ei wneud yn Llys Sirol Leeds ym Mai 2006.

Dywedodd undeb NACODS De Cymru, sy'n ymladd yr achos, fod degau o filoedd o gyn-lowyr yn diodde ar l gweithio'n rheolaidd mewn mannau cyfyng.

Yn l ysgrifennydd NACODS De Cymru, Bleddyn Handcock, mae angen penderfyniad buan gan fod nifer o'r dynion yn hen.

"Mae'r penderfyniad yn golygu bod ganddyn hawl i edrych ar ddogfennau'r Bwrdd Glo sy yn nwylo'r Adran Fasnach a Diwydiannol.

'Ymchwiliad'

"Rydyn ni'n gobeithio gorffen yr ymchwiliad mor fuan phosib oherwydd mae nifer o'r glowyr ag anafiadau difrifol ac mae amser yn brin."

Mae'r undeb weedi honni fod y llywodraeth wedi ceisio rhwystro taliadau iawndal i'r glowyr.

Ond dywedodd yr Adran Masnach a Diwydiant fod yr achos ond newydd ddechrau.

'Dim tystiolaeth'

"Ar hyn o bryd does dim tystiolaeth wedi cael ei datgelu sy'n awgrymu fod yr Adran Diwydiant a Masnach yn atebol am lowyr sy'n diodde poenau yn y pen-glin."

Dywedodd Garteth Morgan, cyfreithiwr yr undeb, y byddai achos arall i benderfynu'r camau cyfreithiol nesa.

Ym Mawrth 1999 cytunodd Llywodraeth y Deyrnas Gyfun dalu 1.5 biliwn o iawndal i 65,000 o gyn-lowyr oedd weei diodde clefydau'r ysgyfaint.




HEFYD
Dros 300m i gyn-lowyr
24 Ion 05 |  Newyddion
'Dim iawndal i rai glowyr'
14 Maw 04 |  Newyddion
387m o iawndal i gyn-lowyr
12 Ion 04 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^