BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 4 Ionawr 2007, 16:27 GMT
Gren y cartwnydd yn marw
Gren: (Llun: South Wales Echo)
Yn ystod ei yrfa cyhoeddodd Gren 24 o lyfrau

Bu farw'r cartwnydd Gren yn 72 oed.

Am 35 mlynedd bu Grenfell Jones yn gartwnydd papur newydd y South Wales Echo.

Roedd ei waith am bentref dychmygol yn y de, Aberflyarff, ac yn canolbwyntio ar gymeriadau rygbi a chymeriadau'r cymoedd.

Cafodd yr MBE yn 1989 am ei waith i bapurau newydd a phedair gwaith yn yr wythdegau enillodd wobr Cartwnydd Rhanbarthol Papurau Newydd.

Cafodd ei eni yn fab i lwr yn Hengoed yng Nghwm Rhymni ac roedd yn byw yn Llandaf o Gaerdydd.

Bu farw yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, ddydd Iau.

Miloedd

Dangosodd ddiddordeb mewn cartwnau pan oedd yn ifanc iawn ac yn 1968 cafodd ei gyflogi fel cartwnydd i bapurau'r Western Mail a'r South Wales Echo.

Cynhyrchodd filoedd o gartwnau dyddiol - rhai yn codi o newyddion y dydd ac eraill yn olrhain hanes cymeriadu fel Ponty a Pop, Bromide Lil a thrigolion pentre Aberflyarff.

Bu'n gwneud cartŵn yn ddyddiol i'r papur tan iddo ymddeol yn 1999 pan oedd yn 65 oed.

Ond ar l ymddeol roedd yn paratoi cartŵn i'r Echo a chynhyrchu calendr rygbi blynyddol.

Cafodd Gren ddisg aur gan gwmni recordiau EMI ar l i gartŵn fod ar un o recordiau llwyddiannus Max Boyce.

Dros y blynyddoedd mai ei waith wedi cael ei werthu i godi arian i elusennau.

Edmygu

"Pan ddechreuais i roedd yr un materion yn fy niddori," meddai wrth ymddeol.

"Cymru, rygbi a gwleidyddiaeth leol - a'r bwriad i'w hadlewyrchu yn ein bywyd.

"Dwi ddim yn ceisio profi dim byd."

Dywedodd y cartwnydd Bill Tidy ei fod yn edmygu ei waith.

"I mi roedd fel 'Max Boyce ar bapur' ond bod ganddo hiwmor Harry Secombe.

"Cododd filoedd o bunnoedd ar gyfer elusennau.

"Roedd yn hoff iawn o rygbi, a'r unig un oedd yn canu allan o diwn yn fwriadol.

"Roedd ei fys ar guriad Cymru."




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^