BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sul, 24 Mehefin 2007, 10:44 GMT 11:44 UK
Dangos ffilm brin o gyfansoddwr
Syr Edward Elgar
Elgar: Un o brif gyfansoddwyr Prydain

Mae lluniau prin o Edward Elgar yn arwain Cerddorfa Symffoni Llundain wedi cael eu dangos mewn gŵyl gerddorol ym Mhowys.

Roedd rhai clipiau, gan gynnwys lluniau o ffilm deuluol, yn dangos y cyfansoddwr gartre gyda'i gŵn.

Y gred yw mai hwn yw'r tro cyntaf i'r lluniau gael eu gweld yn gyhoeddus.

Roedd y ffilm awr o hyd yn cael ei dangos yng Ngŵyl Gregynog ger Y Drenewydd.

Cafodd y ffilm ei chanfod tua wyth mlynedd yn l, meddai'r perchnogion, Archif Ffilm Huntley.

Dechreuodd yr ŵyl ar Fehefin 15 ac mae'n dathlu 150 mlynedd ers geni'r cyfansoddwr.

Mae'r gerddorfa yn y ffilm yn chwarae Land of Hope and Glory.

'Tro cynta'

Y gred yw mai British Pathe News wnaeth ffilmio'r perfformiad yn stiwdio enwog Abby Road yn 1929.

Hefyd mae 'na luniau o'r cyfansoddwr gyda'r awdur George Bernard Shaw a Vaughan Williams yn 1931.

"Mae'r ffilm hon wedi cael ei dangos yn breifat o'r blaen ond mae'n debyg mai hwn yw'r tro cynta iddi gael ei dangos yn gyhoeddus," meddai Amanda Huntley o'r archif.

Plas Gregynog (Llun: Prifysgol Cymru Aberystwyth)
Mae'r ŵyl ym Mhlas Gregynog ger Y Drenewydd

"Roedd yn rhan o gasgliad preifat y cawsom ei gweld gyntaf ryw saith neu wyth mlynedd yn l."

Ar ddiwrnod olaf yr ŵyl ddydd Sul roedd y sylw cyfan ar Elgar.

Roedd perfformiad o un o'i weithiau gan bedwarawd llinynnol a phianydd a darlith gan ei gofiannydd, Diana McVeagh.

Mae gan Elgar gysylltiad uniongyrchol gyda Gregynog gan iddo ymweld 'r plas yn 1924.

Roedd yn westai i'r perchnogion, Gwendoline a Margaret Davies.

Y ddwy chwaer sefydlodd yr ŵyl yn 1933 a llwyddo i ddenu cerddorion amlwg fel Gustav Holst ac Adrian Boult.

Yn ddiweddar, mae Benjamin Britten a Bryn Terfel wedi ymddangos yno.

"Yn ogystal dathlu 150 mlynedd ers geni Elgar, rydan ni'n dathlu ei gysylltiad gyda'r plas," meddai Rhian Davies, cyfarwyddwr yr ŵyl a'r hanesydd cerddorol.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^