BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 22 Mehefin 2007, 10:53 GMT 11:53 UK
'Dim dewis ond cau rhai ysgolion'
Protest cau ysgol
Mae nifer o brotestiadau wedi bod ar draws Cymru yn erbyn cau ysgolion

Mae hi'n anorfod y bydd yn rhaid i ragor o ysgolion gau wrth i niferoedd y disgyblion barhau i ostwng.

Dyna ddywedodd Gweinidog Addysg Cymru Carwyn Jones.

Dywedodd wrth BBC Cymru y gallai fod dros 100,000 o lefydd gwag mewn ysgolion erbyn 2014.

Ychwanegodd bod rhaid sicrhau bod nifer y llefydd yn yr ysgolion yn cyfateb i'r nifer o blant sydd ar gael.

"Bydd y penderfyniadau o ran cau ysgolion yn rhai caled iawn," meddai.

"Mae'n well gwario arian yn uniongyrchol ar addysg plant nag ar hen adeiladau.

"Mater i'r awdurdod lleol ydi hyn i ddechrau, ond fel gweinidog mae gen i rôl i'w chwarae yn ddiweddarach yn y broses.

"Ond rhaid cadw meddwl agored tan y penderfyniad terfynol.

"Os oes ffyrdd o gadw ysgol ar agor, mae'n ddyletswydd arnon ni i edrych ar hynny. Er enghraifft, gallai rhai ysgolion gael eu defnyddio fel cyfleusterau cymunedol hefyd, ond dyw hynny ddim yn ffordd o gadw pob ysgol ar agor."

Y wlad a'r dref

Yn gynharach yn y mis dywedodd Cyngor Powys y bydd chwe ysgol yn cau o fewn y sir.

Fe wnaethon nhw ddweud bod 'na nifer o lefydd gwag o fewn yr ysgolion, a bod hyn yn costio £4 miliwn y flwyddyn.

Ond nid problem i'r ardaloedd gwledig yn unig ydi hyn.

Carwyn Jones
Carwyn Jones: gallai fod dros 100,000 o lefydd gwag mewn ysgolion erbyn 2014

Yng Nghaerdydd mae cynghorwyr yn ystyried cynlluniau i ad-drefnu addysg y sir.

Mae'r cynlluniau yn cynnwys y posibilrwydd o gau ysgolion.

Ond dywedodd Mr Jones nad oes 'na fwriad i gau ysgolion drwy'r wlad a bod y penderfyniad i gau unrhyw ysgol yn un anodd.

"Mae'n anorfod y bydd rhaid uno rhai ysgolion a chau ysgolion eraill.

"Fe fydd rhai ysgolion yn cau ond allwn ni ddim rhagweld pa rai.

"Ond dydi hi ddim yn rheidrwydd y bydd ysgolion sydd wedi eu clustnodi i gau yn cau," ychwanegodd.

Cyfarfod

Mae Carwyn Jones wedi cytuno i gyfarfod â Chymdeithas yr Iaith i drafod dyfodol ysgolion pentrefol. Dywedodd llefarydd y Gymdeithas ar addysg, Ffred Ffransis: "Does gennym ddim rheswm i beidio credu fod Carwyn Jones am ystyried a thrafod y mater allweddol hyn o ddifri.

"Os caiff pob un o'r 200 o ysgolion bach Cymraeg trwy Gymru eu cau, gan rwygo'r galon o'r cymunedau pentrefol hyn, bydd gostyngiad o 10,000 yn unig allan o'r 114,000 o lefydd gwag.

"Mae'r biwrocratiaid wedi methu gyda'u meddylfryd negyddol. Mae angen gwneud gwell defnydd o'r adnoddau pentrefol holl-bwysig hyn drwy greu meddylfryd cydlynus a chwmpasog am sut i'w defnyddio - sy'n gwbl estron i'n gweision sifil. Ymddengys fod Carwyn Jones am agor y drws i syniadau newydd drwy gyhoeddi cynhadledd genedlaethol ar y mater."




HEFYD
'Diwrnod hanesyddol i Gymru'
12 Meh 07 |  Newyddion
Protest cau ysgolion bach
12 Meh 07 |  Newyddion
Bygythiad i ysgolion bach?
13 Maw 07 |  Newyddion
'Argyfwng' ysgolion Cymraeg
30 Ebr 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^