BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 4 Ionawr 2007, 07:04 GMT
Diwedd ar aur Cymru
Modrwyon
Gyda'r gwaith cloddio yn dod i ben mae 'na ddiwedd ar aur Cymru

Bu'n ddewis cynta ar gyfer priodasau brenhinol ond mae aur Cymru ar fin dod i ben.

Fe fydd y cynhyrchydd olaf yn rhoi'r gorau i gloddio am aur o fewn y misoedd nesaf.

Mae hyn oherwydd bod yr aur sydd ar gael i'w fwyngloddio yng Nglofa Gwynfynydd ger Dolgellau yn dod i ben.

Am ddegawdau mae modrwyon priodas y teulu brenhinol wedi dod o Gymru - felly hefyd modrwy Catherine Zeta Jones.

Mae Aur Cymreig yn cael ei ddefnyddio mewn gemwaith ar draws y byd ers canrifoedd.

Ond mae'r aur - sy'n cael ei gloddio ym mryniau Meirionnydd - yn prysur fynd yn brin.

Galw am yr aur

Felly mae'n debyg - heb neb i gloddio - y bydd y gwaith yn dod i ben yn y dyfodol agos.

Mae Phil Edwards, ymgeisydd Plaid Cymru yn etholiadau'r Cynulliad eleni, yn cofio hanes cychwyn y gloddfa.

Roedd ei daid, Huw Edwards, yn ffermio yn ystod yr haf ac yn y gaeaf yn cloddio am aur.

Mae pris aur Cymru yn dipyn uwch nag aur cyffredin
Ifan Evans, Cwmni Canolfan Aur Cymru yn Nhregaron

"Roedd taid yn dweud erioed bod 'na ddigon aur yna ond ei fod yn ddrud i'w gael allan.

"Mae'n siwr mai dyna'r achos heddiw."

Mae'r gwaith wedi rhoi Cymru ar y map, yn ˘l Mr Edwards.

Dywedodd Ifan Evans o gwmni Canolfan Aur Cymru yn Nhregaron bod 'na alw o hyd am aur Cymru.

"Mae pris aur Cymru yn dipyn uwch nag aur cyffredin ac yn agos iawn at bris a phlatinwm ac yn boblogaidd ar gyfer modrwyau priodas," meddai.

"Rydym yng nghwmni Rhiannon wedi bod yn cynhyrchu aur Cymru yn barhaus - yn hirach na neb efallai - ers canol y 1980au.

"Mae'r galw yn gyson.

"O ddechrau'r flwyddyn dim ond gwneud modrwyon priodas a dywedd´o o aur Cymru y byddwn ni - y pethau fydd pobl am eu cael yn yr aur a'u cadw am oes."




HEFYD
Priodas Charles a Camilla
09 Ebr 05 |  Newyddion
Cwmni aur yn symud gwaith i China
25 Ion 05 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^