Mae safonau plant yn gwella
|
Gwella y mae safon llythrennedd a rhifedd plant 7-11 oed yng Nghymru, medd adroddiad Estyn.
Mae adroddiad y corff arolygu wedi sôn am gynnydd er y gallai rhai ysgolion wneud llawer mwy.
Adroddiad am ddulliau helpu plant i ragori oedd hwn.
Dywed yr adroddiad ei bod hi'n haws i ddisgyblion fynd o addysg gynradd i addysg uwchradd.
Mae cynllun Anelu at Ragoriaeth wedi bod yn "allweddol i ddatblygiad disgyblion".
"Mae'r cynllun wedi codi safonau drwy Gymru yng nghyfnod allweddol 3 (11-14 oed)," medd yr adroddiad.
Newid ysgol
"Ond gallai ysgolion wneud mwy i barhau'r datblygiad yn addysg uwchradd."
Cafodd cynllun Anelu at Ragoriaeth ei lansio gan Lywodraeth y Cynulliad yn 2002.
Mae Estyn wedi dweud bod y rhan fwya o ysgolion yn defnyddio'r cynllun i helpu plant sy'n newid ysgol.
Dywed bod nifer o ysgolion uwchradd wedi cyflwyno ffyrdd gwell o addysgu sgiliau sylfaenol sydd wedi gwella gwaith y disgyblion.
"Mae addysgu a dysgu mwy effeithiol yn gwella perfformio disgyblion yng ngwaith plant yng nghyfnod allweddol 3," meddai Susan Lewis, Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Cymru.
'Yn well'
"Ac mae llythrennedd, rhifedd a thechnoleg gwybodaeth disgyblion yn well yn y rhan fwya o ysgolion."
Mae Rhys Williams o undeb athrawon yr NUT wedi dweud bod yr adroddiad yn galonogol.
"Profi y mae'r adroddiad ein bod ni'n cydweithio rhwng y sector cynradd ac uwchradd a bod y sefyllfa'n gwella.
"Yn Lloegr dyw hyn ddim yn digwydd.
"Mae'n dangos ein bod ni ar y trywydd cywir," ychwanegodd.