BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 1 Ionawr 2007, 14:15 GMT
Athletwr yn cario ffagl Nyth Brn
Rhys Williams
Mae Williams yn un o brif athletwyr Prydain

Yr athletwr Rhys Williams, oedd y rhedwr cudd yn ras flynyddol Nos Galan yng Nghwm Cynon.

Cariodd Williams - mab y seren rygbi o'r 1970au, JJ Williams - ffagl o fedd y rhedwr chwedlonol Guto Nyth Brn yn Llanwynno i ganol tref Aberpennar nos Sul.

Roedd tua 600 o redwyr yn cymryd rhan yn y ras flynyddol.

Yn l trefnwyr y ras, Cyngor Rhondda Cynon Taf, roedd tua 5,000 yn gwylio'r ras.

Digwyddiad teuluol

Mae'r ras yn cael ei chynnal er cof am y rhedwr Guto Nyth Brn gafodd ei eni yn 1700 ac yn l y sn rhedodd saith milltir i Bontypridd ac yn l mewn llai o amser nac y cymerodd i ferwi tegell.

Tan y funud ola does neb yn gwybod pwy fydd y rhedwr cudd.

Rhedwyr Nos Galan
Roedd tua 600, gan gynnwys plant, yn rhan o'r ras flynyddol

Enillodd Williams, o Gaerdydd, y fedal efydd ym mhencampwriaethau Ewrop yn Sweden ym mis Awst yn y ras 400 medr dros y clwydi.

Mae'n un o brif redwyr dros y clwydi Prydain.

"Mae'n un o brif ddigwyddiadau'r flwyddyn yma," meddai llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf.

"Mae pobl o bob man yn cymryd rhan ac mae'n ddigwyddiad teuluol."

Cafodd y ras ei lansio yn 1958 gan Bernard Baldwin MBE.




HEFYD
Nos Galan: Sr rygbi'n redwyr cudd
01 Ion 06 |  Newyddion


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^