BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 21 Mehefin 2007, 07:05 GMT 08:05 UK
Trafod lleoliad Prifwyl 2009
Maes Eisteddfod Abertawe 2006
Mae'r Eisteddfod yn awyddus i ymweld 'r Bala yn 2009

Mae trefnwyr yr Eisteddfod Genedlaethol yn gobeithio y bydd prifwyl 2009 yn cael ei chynnal yn Y Bala.

Bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yn y dref fis nesa i weld os oes 'na gefnogaeth yno i'r syniad.

Y gobaith ydi cynnal yr ŵyl ar Stad y Rhiwlas - yr union safle lle cafodd ei chynnal yn 1997.

Dywedodd Hywel Wyn Edwards, trefnydd yr Eisteddfod, eu bod yn awyddus i fynd i'r Bala.

"Fe fyddwn ni nawr yn gofyn i bobl Meirionnydd a ydyn nhw'n barod i'w derbyn," meddai.

Llwyddo'n rhyfeddol

"Does 'na ddim ardal arall wedi cynnig lleoliad i'r Eisteddfod yn 2009 a dydi hi ddim yn waith hawdd i ganfod lleoliad."

"Ar hyn o bryd rydan ni'n cynnal trafodaethau efo cynghorau sir drwy Gymdeithas Lywodraeth Leol Cymru am daith yr Eisteddfod yn bellach na 2009."

Mae angen i'r unrhyw gronfa leol godi tua 300,000.

"Mae pobl Meirionnydd wedi dweud wrthon ni fod hi'n bryd i'r Eisteddfod ddod yn l ac y bydd yna groeso iddi," meddai Mr Edwards.

"Rydym yn ffyddiog y byddwn ni'n cartrefu yn Y Bala ac roedd Eisteddfod 1997 ymhlith yr eisteddfodau gorau yn y blynyddoedd diwethaf."




HEFYD
Ymlaen i Sir y Fflint yn 2007
13 Awst 06 |  Newyddion
Cyhoeddi Prifwyl 2007
03 Gorff 06 |  Newyddion
Cyhoeddi Prifwyl Caerdydd 2008
16 Meh 07 |  Newyddion
Gwahoddiad i Brifwyl 2013
19 Meh 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^