Cyllideb: Argyfwng i Rhodri Morgan?
|
Gallai £9 miliwn ychwanegol i Gymru oddi wrth y Canghellor helpu setlo ffrae cyllideb Bae Caerdydd.
Roedd y gwrthbleidiau â mwyafrif bach wedi dweud y bydden nhw'n pleidleisio yn erbyn cyllideb gweinyddiaeth Rhodri Morgan os na fyddai'n gwario £22 miliwn yn fwy ar ysgolion a phrifysgolion.
Bydd y bleidlais ddydd Mercher, Rhagfyr 13.
Awgrymodd y Ceidwadwyr ddydd Mercher y bydden nhw'n cefnogi cyllideb Mr Morgan pe bai rhan fawr o'r £9 miliwn o'r Trysorlys yn cael ei gwario ar addysg.
Mae BBC Cymru'n deall nad oes mwy o drafod wedi bod i setlo ffrae cyllideb y cynulliad.
Blaenoriaethau
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y cynulliad Nick Bourne y dylai Mr Morgan ddangos beth oedd ei flaenoriaethau.
"Dylai benderfynu a yw'n credu mewn buddsoddi mewn addysg. Os nag yw e o blaid buddsoddi, bydd rhaid iddo wynebu'r canlyniadau."
Dydd Mercher cyhoeddodd Gordon Brown y byddai £165 miliwn ar gael i Gymru am bedair blynedd, gan gynnwys £9 miliwn y flwyddyn nesa.
Roedd Sue Essex, y Gweinidog Cyllid, wedi dweud y byddai'n fodlon trafod ymhellach â'r gwrthbleidiau pe bai mwy o arian ar gael.
Yn wreiddiol, roedd hi wedi cynnig £14 biliwn ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.
£16 miliwn
Ar un adeg ddydd Mawrth roedd y gwrthbleidiau wedi dweud eu bod yn barod i ffurfio llywodraeth.
Maen nhw wedi gofyn am £16 miliwn yn ychwanegol i ysgolion a £6 miliwn i brifysgolion er mwyn cau'r bwlch rhwng yr hyn sy'n cael ei wario ar addysg uwch yn Lloegr a'r hyn sy'n cael ei wario yng Nghymru.
Os yw Llafur yn cael eu trechu yr wythnos nesa ar fater y gyllideb, gallai'r Prif Weinidog Rhodri Morgan fod o dan bwysau i ymddiswyddo.
Mae wedi awgrymu na fyddai'n gallu llywodraethu os nad yw'r gyllideb yn cael ei chytuno ond mae BBC yn deall na fydd yn ymddiswyddo os bydd yn colli'r bleidlais.
Ffurfio llywodraeth
Roedd Mr Bourne a Mike German, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, wedi awgrymu y byddai'r gwrthbleidiau'n fodlon ffurfio llywodraeth.
Ac roedd arweinydd Plaid Cymru Ieuan Wyn Jones wedi dweud eu bod yn fodlon trafod â'r llywodraeth Lafur er mwyn dod o hyd i arian ychwanegol ar gyfer addysg.