BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 27 Rhagfyr 2006, 16:39 GMT
Diwrnod mawr Capten Jack
John Barrowman
Bu'n rhaid i'r actor adael y dathliadau i gymryd rhan mewn pantomeim
Mae'r actor John Barrowman, sy'n serennu yn y gyfres ffuglen wyddonol Torchwood, wedi uno Ô'i gymar mewn partneriaeth sifil.

Cafodd y seremoni i gofrestru partneriaeth Barrowman a'r pensaer Scott Gill ei chynnal yng ngwesty Dewi Sant, Caerdydd ddydd Mercher.

Ond fe fu'n rhaid i'r actor 39 oed, sy'n portreadu Capten Jack Harkness yn y gyfres, adael yn fuan wedi'r achlysur i gymryd rhan mewn pantomeim.

Mae'r ddau wedi bod mewn perthynas am 16 mlynedd.

Hawliau

Fe wisgodd Mr Barrowman, a gafodd ei eni yn Glasgow, gilt ar gyfer yr achlysur.

Wedi'r seremoni dywedodd ei fod yn bwysig i gydnabod partneriaethau hoyw.

Scott Gill
Mae'r actor wedi bod mewn perthynas gyda Scott Gill ers 16 mlynedd

"Mae'n teimlo'n wych ac rwy'n meddwl y dylai mwy o ddynion a menywod hoyw ei wneud o, cyn belled Ô'u bod o ddifri." meddai.

"Mae'n bwysig i bobol weld normalrwydd y sefyllfa ac mae o'n gorfodi pobol sy'n anghytuno Ô'r syniad o ddynion a menywod hoyw ... i'n derbyn.

"Rydym yn haeddu'r un hawliau Ô phawb arall.

Ychwanegodd: "Rydym wedi aros yn hir ond fe wnaethon ni gyfreithloni ein perthynas i'n gilydd amser maith yn ˘l drwy gymryd morgais gyda'n gilydd...

Dathliadau

" ... Mae hyn yn rhywbeth sy'n gorfodi pobol nad sydd eisiau cydnabod y peth bod yn rhaid iddyn nhw ei gydnabod."

John Barrowman yn y gyfres Torchwood
Fe fydd yr ail gyfres o Torchwood yn cael ei ffilmio yn y gwanwyn

Wrth i'r dathliadau barhau yn y gwesty fe fu'n rhaid i Mr Barrowman adael tua 40 o westeion i berfformio ym mhantomeim Jack and the Beanstalk yn Theatr Newydd Caerdydd.

BBC Cymru sy'n cynhyrchu Torchwood, chwaer raglen i'r gyfres boblogaidd Doctor Who.

Yng Nghaerdydd y mae'r ddwy gyfres yn cael ei ffilmio.

Mae cyfres gynta Torchwood yn dod i ben Ddydd Calan ac fe fydd ail gyfres yn cael ei chynhyrchu yn y gwanwyn.




HEFYD
Syr Elton yn diolch am lwy garu
14 Gorff 06 |  Newyddion
Plas: Seremon´au hoyw?
22 Meh 06 |  Newyddion
Hoyw: Cynnal seremon´au cyntaf
21 Rhag 05 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^