Cafodd rhan ola'r ffilm wreiddiol ei hailgreu
|
Mae hanes adfer y ffilm Gymraeg gyntaf yn cael ei ddatgelu mewn cyfres sy'n cychwyn nos Lun.
Cafodd Y Chwarelwr ei chynhyrchu yn 1935 gan Syr Ifan ab Owen Edwards, sylfaenydd Urdd Gobaith Cymru, a'r athro a'r dramodydd John Ellis Williams.
Roedd y ddau'n poeni am ddylanwad diwylliant Americanaidd a dyna pam cynhyrchon nhw'r ffilm 37 munud o hyd am hanes teulu chwarelwr ym Mlaenau Ffestiniog.
Roedd yr actorion yn aelodau o Gymdeithas Ddrama Blaenau Ffestiniog a'r dynion i gyd yn chwarelwyr eu hunain.
Rîl goll
Cafodd rîl ola'r ffilm - sef rhyw 8 munud o'r stori - ei cholli rai blynyddoedd yn ôl.
Lansiodd y bardd a chynhyrchydd teledu Cwmni Da, Ifor ap Glyn, apêl i ddarganfod y rîl goll.
Pan fethodd yr apêl penderfynodd ail-greu'r golygfeydd coll ei hun er mwyn i wylwyr fwynhau'r ffilm gyfan.
Ifor ap Glyn gyda'r rhai sy'n actio Syr Ifan ab Owen Edwards a John Ellis Williams
|
"Ro'n i wedi 'y nghyfareddu gan y ffilm erioed ac wedi dechrau gweithio ar gyfres o raglenni dogfen fel teyrnged i wneuthurwyr gwreiddiol y ffilm a'u gwaith.
"O ran saethu'r golygfeydd coll, ro'n i am aros yn driw i'w gweledigaeth ond roedd yn rhaid i mi feddwl hefyd am anghenion y gynulleidfa gyfoes."
Fel yn achos y ffilm wreiddiol, mae'r golygfeydd a gafodd eu ffilmio yn Mlaenau Ffestiniog a'r Amgueddfa Lechi Genedlaethol yn Llanberis, yn cynnwys actorion amatur lleol.
Sgôr newydd
Roedd trac sain gwreiddiol y ffilm wedi goroesi, ond gan ei bod yn anodd deall y sain ar brydiau, bu'n rhaid recordio un newydd.
Ifor ap Glyn: Y ffilm wreiddiol wedi ei gyfareddu
|
Cyfansoddodd Pwyll ap Siôn sgôr newydd ar gyfer y ffilm.
John Reed, swyddog Cadwraeth yr Archif Genedlaethol Sgrïn a Sain, wnaeth y gwaith adfer - am flwyddyn.
Dywedodd fod y dasg fel "jig-so enfawr".
Mae hanes adfer y ffilm ar S4C, Y Chwarelwr - Y Rîl Goll, Llun-Mercher, Rhagfyr 4-6 am 9pm. Bydd y ffilm ei hun yn cael ei darlledu ar nos Sul, Rhagfyr 10 am 9pm.