BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sul, 3 Rhagfyr 2006, 09:54 GMT
Bwrdd Iaith yn cefnogi dotCYM
Logo dotCym

Cafodd ymgyrch dotCYM gefnogaeth gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.

Bwriad yr ymgyrch ydi i Gymru gael yr un statws ar y rhyngrwyd â gwledydd bach eraill.

Yn ogystal â chefnogi dotCYM mewn egwyddor mae'r Bwrdd wedi cynnig cyfraniad ariannol o £5,000 at y gwaith o baratoi a chyflwyno'r cais.

Ym mis Medi fe aeth Siôn Jobbins o dotCYM i Brâg i gyflwyno'r ddadl dros ddefnyddio dotCYM ar wefannau yng Nghymru.

Ar ôl y gynhadledd dywedodd ei fod yn obeithiol.

Dywedodd bod cyhoeddiad y Bwrdd yn "newyddion da iawn".

Hwb i'r iaith

"Fel corff sydd â chyfrifoldeb dros hyrwyddo'r Gymraeg mae'n dda gweld bod y Bwrdd wedi cytuno y bydd cael parth dotCYM yn ffordd o hyrwyddo defnydd o'r Gymraeg.

"Mae'n ffordd o godi proffil yr iaith a Chymreictod mewn maes hollol allweddol os yw'r Gymraeg i ffynnu yn y ganrif hon," meddai Mr Jobbins o Aberystwyth.

Mae cais dotCYM yn cyfrannu at weithredu Strategaeth Technoleg Gwybodaeth y Bwrdd.

Y gobaith ydi y bydd llwyddiant dotCYM yn gam at normaleiddio'r Gymraeg fel iaith Technoleg Gwybodaeth a'r Rhyngrwyd.

Dywedodd Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg: "Mae sicrhau fod y Gymraeg yn rhan o ddatblygiadau Technoleg Gwybodaeth a chryfhau hunaniaeth yr iaith a Chymru ar y we yn holl bwysig i'r Bwrdd.

"Rhaid cadw ati i ddatblygu meddalwedd a rhaglenni yn y maes hwn fel bod y Gymraeg yn berthnasol i'n bywydau bob dydd sy'n gynyddol ddibynnol arnynt."




HEFYD
Statws ar y we: 'Gobeithiol'
27 Medi 06 |  Newyddion
Ymgyrch: Statws i Gymru ar y we
25 Medi 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^