BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sul, 3 Rhagfyr 2006, 14:21 GMT
Gwyl i ddathlu bywyd Hedd Wyn
Hedd Wyn
Hedd Wyn - Bardd y Gadair Ddu

Yn Nhrawsfynydd dros y penwythnos roedd 'na gyfle i ddathlu bywyd a gwaith un o feirdd enwoca Cymru.

Un o feibion y pentref oedd y bardd Ellis Humphrey Evans neu Hedd Wyn.

Mae nifer o lenorion Gwynedd fel T H Parry-Williams, Caradog Prichard a Kate Roberts, wedi derbyn sylw mewn gwyliau arbennig i ddathlu eu gwaith yn y gorffennol.

Tro Hedd Wyn, mab fferm Yr Ysgwrn, Trawsfynydd, fydd i gael sylw eleni.

Enillodd Hedd Wyn y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhenbedw yn 1917.

Ond roedd wedi cael ei ladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf wythnosau yn gynt.

Cafodd yr Eisteddfod ei hadnabod fel Eisteddfod y Gadair Ddu.

Darlith a thaith gerdded

I agor y penwythnos o ddathlu roedd un o feibion yr ardal, Yr Athro Gwyn Thomas, yn cyflwyno darlith ar Hedd Wyn.

Roedd darlith Bardd Cenedlaethol Cymru yn Neuadd Bentref Trawsfynydd prynhawn Sadwrn.

Yr Ysgwrn, cartref Hedd Wyn
Roedd y daith gerdded yn mynd heibio fferm Yr Ysgwrn

"Roedd yn fardd wedi madael yr ysgol yn gynnar a'i addysgu ei hun a thrwytho'i hun yn y farddoniaeth," meddai.

"Llwyddodd i ganu rhai cerddi eithriadol yn ifanc iawn, cerddi cymhleth."

Wedi'r ddarlith cafwyd cyfle i weld y ffilm Hedd Wyn a gafodd ei henwebu am Oscar am y ffilm iaith dramor orau ym 1993 a sgwrs gan yr actor Huw Garmon bortreadodd y bardd.

Nos Sadwrn yng ngwesty'r Oakelely Arms, Maentwrog, roedd John Ogwen a Maureen Rhys yn portreadu gwaith a bywyd y bardd yn eu dull unigryw.

Ac roedd y band lleol, Band Arall, yn diddanu.

Drws ar agor

Dydd Sul cafodd pobl gyfle i fynd ar daith gerdded o amgylch bro Hedd Wyn.

Roedd y daith yn ymweld â'r Ysgwrn.

"Doedd yr hen wraig [mam Hedd Wyn] byth yn cloi'r drws - roedd ar agor bob amser yn disgwyl i'r hogia ddod adre," meddai Gerald Williams, Nai Hedd Wyn.

Yng nghanolfan Llys Ednowain yn y pentref mae 'na arddangosfa ar Hedd Wyn.

Y gobaith ydi y bydd yr ŵyl yma yn un blynyddol.

Mae'r digwyddiad yn cael ei gefnogi gan Gynllun Hyrwyddo Llenyddiaeth Gwynedd, sef cynllun ar y cyd rhwng yr Academi a Chyngor Gwynedd.




HEFYD
Plac i nodi ffilmio Hedd Wyn
15 Ebr 05 |  Newyddion
Clasuron ffilm ar DVD
26 Hyd 05 |  Newyddion
Canolfan i adrodd hanes ardal
30 Maw 04 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^