Petai'r grant yn cael ei roi bydd y golygydd yn cychwyn ar ei waith
|
Gall BBC Cymru ddatgelu fod dau wedi eu penodi'n olygydd a dirprwy olygydd papur newydd Y Byd.
Fydd penodi Aled Price a Catrin Rogers ddim yn cael eu cadarnhau'n ffurfiol nes bydd perchnogion y papur, Cwmni Dyddiol Cyf, yn cael sicrwydd o grant Ewropeaidd.
Clywodd rhaglen Post Cyntaf y byddai'r cwmni'n disgwyl clywed am y grant o fewn y mis.
Mae Mr Price, o Gaerdydd yn wreiddiol, yn newyddiadurwr profiadol sydd wedi gweithio am flynyddoedd i BBC Cymru.
Bu'n cynhyrchu rhaglen Newyddion ar S4C ac yn gweithio yn uned wleidyddol BBC Cymru.
Cyn ymuno â BBC Cymru bu'n gweithio ar raglen Y Byd ar Bedwar i HTV Cymru.
'Project hanesyddol'
Dywedodd ei fod yn edrych ymlaen yn fawr at afael yn yr awenau a bod yn rhan o broject,"mor hanesyddol â hwn, y papur dyddiol Cymraeg cynta erioed".
Y dirprwy olygydd fydd Catrin Rogers.
Ar hyn o bryd mae hi'n olygydd papur lleol yn Hounslow yn Llundain.
Fel newyddiadurwraig ar ei liwt ei hun mae hi wedi cyfrannu at bapur yr Observer a nifer o gylchgronau.
Profiadol
Dywedodd Dyddiol Cyf fod y cwmni'n falch o gael penodi staff mor brofiadol i arwain yr ochr olygyddol a bod gwaith cynllunio'r papur yn cyrraedd cyfnod newydd.
Daw'r cyhoeddiadau bron saith mlynedd ers i'r academydd Ned Thomas wyntyllu'r syniad am bapur newydd yn gyntaf.
Does 'na ddim dyddiad cyhoeddi wedi ei bennu, a fydd hynny ddim yn digwydd tan ddiwedd y flwyddyn ac felly mae'n annhebyg y bydd Y Byd yn gweld golau dydd tan o leia ganol 2007.