Mae gwaith Keith Sinclair yn ymwneud â siarad gyda'r gymuned
|
Cafodd plisman ei anrhydeddu am weithio gyda mewnfudwyr i'r gymuned yn Wrecsam.
Fe wnaeth y cwnstabl Keith Sinclair ddod yn ail yng Ngwobrau Blynyddol i Swyddogion Cymunedol.
Dysgodd Mr Sinclair Bwyleg er mwyn cynorthwyo'r berthynas gyda'r mewnfudwyr.
Cafodd ei gymeradwyo am ddysgu'r iaith gan wneud yn siŵr nad oedd y mewnfudwyr yn teimlo'n unig.
Dysgodd yr iaith ac ymweld â Gwlad Pwyl yn ei amser hamdden.
"Mae o wedi gweithio'n galed i ddatblygu'r iaith ac mae'n hynod o werthfawr i'r gymuned ac i'r heddlu," meddai pennaeth rhanbarthol yr heddlu, y Prif Arolygydd Phill Thomson.
Seremoni
Cafodd Mr Sinclair ei wobr mewn seremoni yn Llundain nos Iau.
Roedd 117 o swyddogion wedi cael eu henwebu o 46 o luoedd ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Mae 'na amcangyfri bod 10,000 o Bwyliaid yn byw yn Wrecsam.
Cymaint ydi'r nifer sy'n byw yno mae'r heddlu yn ystyried penodi swyddogion Pwyleg.
Mae Mr Sinclair yn annog y Pwyliaid i gysylltu ag o gyda'u problemau.
Llwyddodd drwy ei gysylltiadau i ganfod nifer o bobol gyda chysylltiad â throseddau yng Ngwlad Pwyl.
"Er mwyn dysgu iaith yn iawn rhaid rhoi'r ymdrech," meddai.
"Dwi'n astudio am o gwmpas dwy awr y dydd."