Bon Marche oedd un o brif siopau teuluol Pwllheli
|
Mae un o hen siopau teuluol y gogledd yn cau ei drysau mewn ychydig o wythnosau.
Agorodd Bon Marche ym Mhwllheli ym 1926 a gwerthu dillad, nwyddau i'r tŷ ac esgidiau ar un adeg i drigolion Llŷn a thu hwnt.
Ond pan fu farw'r perchennog Richard Lloyd Jones, cafodd adeilad anferth y siop ar Sgwâr yr Orsaf ei werthu.
Mae'r siop deuluol wedi bod yn sefydliad yn yr ardal ac mae rhai o'r gweithwyr yn teimlo bod cau'n "glec fawr" i dref Pwllheli.
'Colli ffrindiau'
Yn ôl Gruff Owen, sy wedi bod yn gweithio yn y siop ers 41 mlynedd, mae Bon Marche gymaint yn fwy na lle i brynu nwyddau.
"Dwi 'di dod i nabod teuluoedd ar hyd y blynyddoedd a dwi'n teimlo ein bod ni'n colli ffrindia a'r busnes yn darfod."
Dywedodd Myfanwy Jones, aelod staff ers degawdau: "Bydd yn ddiwrnod trist i Bwllheli a'r ardal gyfan pan fydd y drws yn cau am y tro olaf.
"Roedd o'n lle i gymdeithasu - a phobl yn dod yma o gyn belled â Sir Fôn."
Dywedodd Maer Pwllheli, Cynghorydd Alan Williams fod hanes yn ail-adrodd ei hunan wrth i siop deuluol fawr arall gau.
"B J Jones Llambed, Dan Evans yn y Barri ...yr un hen stori yw hi,"meddai. "Mae'r to ifanc yn siopa yn Top Shop ac H&M, ac mae'r oes 'di symud."