Pleidlais arbennig: Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn dewis enw
|
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eyri wedi dewis enw'r adeilad newydd ar fynydd ucha Cymru.
Yr enw yw Hafod Eryri.
Yr ail enw mwya poblogaidd oedd Pen Wyddfa a'r trydydd oedd Copa.
Roedd bron 500 o bobol wedi awgrymu enwau i'r ganolfan ar gopa'r Wyddfa.
Ond 422 o gynigion oedd ar y rhestr derfynol gan fod nifer wedi cynnig yr un enwau.
O'r ceisiadau ddaeth i law roedd y mwyafrif yn enwau Cymraeg.
'Hawdd i ynganu'
Cychwynnodd y cyfarfod ym Mhlas Tan y Bwlch, Maentwrog am 10am ac fe roedd y cyhoeddiad am 1pm.
Bu trafodaeth hir wrth i aelodau'r awdurdod drafod y meini prawf.
Roedden nhw am gael enw byr, bachog sy'n hawdd i bawb ei ynganu.
Fe wnaethon nhw lunio rhestr fer o 12 wedi i'r 18 aelod restru eu tri hoff enw ar ddarn o bapur.
O ganlyniad tri enw oedd dal yn y ffrâm ac o'r rheiny Hafod Eryri gafodd y nifer fwya o bleidleisiau.
Wedi'r cyfarfod, dywedodd prif weithredwr yr awdurdod, Aneurin Phillips bod y mater wedi cydio yn nychymyg y cyhoedd a bod maint y diddordeb wedi eu "syfrdanu".
Trafodaeth 'ddifyr'
Derbyniodd yr awdurdod gynigion "o bedwar ban byd, yn Gymraeg a Saesneg" mewn e-byst, llythyrau, galwadau ffôn ac ymweliadau personol â swyddfa'r awdurdod.
 |
Straeon Poblogaidd Eraill
|
"Rydan ni wedi'n calonogi'n fawr gan fod gymaint o bobl wedi mynd i'r drafferth a hynny o'u gwirfodd, i gysylltu â ni," meddai Mr Phillips.
"Yn sgil yr ymateb felly, roeddem yn awyddus i gael trafodaeth fanwl a theg a thrafodaeth ddifyr ac adeiladol.
"Mi gawsom ni hynny'n sicr heddiw ac rydan ni'n falch iawn o gyhoeddi mai Hafod Eryri yw'r enw a ddewiswyd.
Traddodiad amaethyddol
"Fe wnaethom ni ddilyn proses ddemocrataidd o'r cychwyn, a thrwy bleidlais agos, pleidleisiodd yr aelodau ar yr enw Hafod Eryri.
"Mae'n enw Cymraeg, syml, hawdd i'w ynganu a'i farchnata ac yn adlewyrchu traddodiad amaethyddol yr ardal."
Yn ôl geiriadur Prifysgol Cymru, ystyr y gair hafod yw "annedd neu lety haf ... ar ucheldir".
Mae disgwyl i'r ganolfan agor erbyn dechrau haf 2008.
Cost dymchwel yr adeilad 70 oed a chodi canolfan newydd yn ei le yw £8.3 miliwn.
Roedd tua 350,000 o bobl y flwyddyn yn mynd i'r hen adeilad cyn iddo gael ei ddymchwel.
Bydd y Swyddfa Gyllid Ewropeaidd yn rhoi grant Amcan Un o fwy na £4.2 miliwn at yr adeilad a Llywodraeth y Cynulliad yn cyfrannu £3 miliwn.