BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 24 Tachwedd 2006, 22:03 GMT
O Vaughan i Fynwy
Vaughan Roderick
Vaughan Roderick
BBC Cymru

Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru sy'n bwrw golwg ar faterion y dydd. Mae croeso i chi anfon eich sylwadau aton ni isod.

Dydd Gwener, Tachwedd 24

Hen bethau llithrig yw geiriau. Gyda threigl amser mae ystyr geiriau yn gallu newid. Dyma un enghraifft. Gan fy mod i'n un o genhedlaeth wnaeth astudio Lladin yn yr ysgol, dwi'n un o rhai hynny sy'n glynu at y defnydd cywir o'r gair Saesneg "decimate".

Cosb yn y fyddin Rufeinig oedd degymu lle'r oedd un o bob 10 milwr yn cael ei ddienyddio. Ystyr degymu/decimate felly yw lleihau o 10%. Dyna yw un o ystyron y gair Cymraeg o hyd ond yn Saesneg bellach mae "decimate" yn gyfystyr a difa neu ddinistrio...gwastraff ar air lle mae 'na hen ddigon o eiriau eraill ar gael!

Am wn i does 'na'r un gair yn fwy llithrig ei ystyr na "chenedl"; gair sy'n newid ei ystyr yn gyson ac sydd ag ystyron gwahanol i wahanol bobl ac mewn gwahanol ieithoedd.

Refferendwm

Ar hyn o bryd mae senedd Canada yn ystyried cynnig i gydnabod y Quebecois Ffrangeg eu hiaith fel cenedl. Mae'r cynnig yn sicr o gael ei basio ond mae 'na ddadlau ffyrnig ynglŷn ac arwyddoc‚d y gydnabyddiaeth honno.

Mae'r Quebcois wedi dadlau o blaid cydnabyddiaeth o'r fath ers blynyddoedd. Ers tro byd mae Canada wedi cydnabod bod eu trigolion brodorol yn genhedloedd wrth wrthod yr un gydnabyddiaeth i'r Quebecois. Roedd 'na reswm gwleidyddol amlwg dros y safbwynt hwnnw.

Ar ddau achlysur mae cenedlaetholwyr Quebec wedi llwyddo i sicrhau refferendwm ar annibyniaeth i'r dalaith, a dim ond o drwch blewyn y cafodd yr awgrym ei wrthod yn y ddwy bleidlais.

Ofn unoliaethwyr Canada oedd y byddai cydnabod y Quebecois fel cenedl yn awgrymu eu bod yn bobl sofran gyda hawl foesol gynhenid i adael y Ffederasiwn heb ganiat‚d na chydsyniad y mwyafrif "cenedlaethol". Nawr, mae'n ymddangos mae pethau wedi newid.

Cenedl o fewn Sbaen

Nid unoliaethwyr Canada yw'r unig rai sydd wedi bod yn amharod i gydnabod bodolaeth cenedl o fewn ffiniau eu gwladwriaeth. Yn eironig ddigon, o gofio cefnogaeth llywodraethau Ffrainc i achos y Quebecois mae'r syniad o gydnabod cenedligrwydd y Llydawyr a lleiafrifoedd eraill yn wrthun i wleidyddion y wlad honno.

Yn Sbaen tan yn ddiweddar iawn mae llywodraethau o bob lliw wedi gwrthod cydnabod y Basgiaid a'r Catalaniaid fel cenhedloedd. Cymaint oedd rhwystredigaeth trigolion Caltalonia am y sefyllfa nes iddynt gynnal refferendwm yn gynharach eleni i'w cydnabod eu hun fel "cenedl o fewn Sbaen"! Fe ildiodd y llywodraeth yn Madrid i'r alwad ddau fis yn Űl.

Gwersi o Brydain

Pam felly mae meddyliau unoliaethwyr yn Ottowa a Madrid (os nad Paris) wedi newid? Mae'r ateb i'w cwestiwn hwnnw yn dod a ni yn Űl i Gymru fach.

Gŵr oedd yn deall pwysigrwydd ac arwyddoc‚d cael cydnabyddiaeth fel cenedl oedd Gwynfor Evans. Yn wir gellir dadlau bod y gydnabyddiaeth honno cyn bwysiced ‚ hunanlywodraeth yn ei weledigaeth wleidyddol. Roedd y gwahaniaeth rhwng cenedl a gwladwriaeth a chenedligrwydd Cymru yn them‚u canolog i'w areithiau a'i lyfrau. Roedd rhai ym Mhlaid Cymru wedi hen syrffedu o glywed y neges mor aml gan eu llywydd ond mae hanes wedi profi cywirdeb y dadansoddiad.

Yn raddol fe enillwyd y ddadl. Rhoddodd y cyfryngau'r gorau i ddisgrifio Cymru fel rhanbarth neu dywysogaeth. Trodd adran ranbarthau'r BBC yn adran y cenhedloedd a'r rhanbarthau. Dechreuodd gwleidyddion gyfeirio at Gymru fel "gwlad" a chafwyd yr un gair o brotest pan fedyddiwyd y Cynulliad yn Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Erbyn hyn prin yw'r gwleidyddion sy'n cyfeirio at Brydain neu'r Deyrnas Unedig fel cenedl ac mae'r ddadl unoliaethol yn cael ei chyflwyno ar sail llwyddiant Prydain fel gwladwriaeth rhyng-genedlaethol. Mewn araith ddiweddar yn Glasgow yn amddiffyn yr undod Prydain defnyddiodd David Cameron y geiriau "gwlad" a "chenedl" wrth ddisgrifio'r Alban, Cymru a Lloegr a'r gair Undeb i ddisgrifio'r wladwriaeth gyfan. Fe fyddai Gwynfor wrth ei fodd!

Diwedd Gwladwriaeth

Mae gwleidyddion Canada a Sbaen wedi dysgu o'r profiad yma ym Mhrydain. Eu cred yw, o edrych ar brofiad Prydain, nad yw cydnabod cenedligrwydd o reidrwydd yn tanseilio undod gwladwriaeth.

Ond a yw'r wers honno yn gywir? Yn Űl arolygon barn mae 'na fwyafrif o blaid annibyniaeth yn Yr Alban erbyn hyn ac yma yng Nghymru mae 'na ddigon o dystiolaeth bod y Cymry, o gael eu cydnabod fel cenedl, yn dechrau ymddwyn fel cenedl.

Cafwyd un enghraifft o hynny yn rhifyn cyfredol o TES Cymru. Mewn arolwg dywedodd y mwyafrif llethol o athrawon Cymru bod angen dysgu ystyr bod yn Gymro i'n plant. Nifer llawer yn llai oedd yn gweld unrhyw werth mewn dysgu Prydeindod.

Mae 'na sawl ffordd y gall gwladwriaeth ddarfod. Mae concwest a chwyldro wedi rhoi terfyn gwaedlyd ar nifer. Mae'n bosib hefyd i wladwriaethau farw o ddifaterwch oherwydd nad yw eu sefydliadau, ei baneri na'r anthemau bellach yn berthnasol i'w dinasyddion. Dyna oedd tynged yr Undeb Sofietaidd ac efallai dyna hefyd fydd tynged y Deyrnas Unedig, a Sbaen a Chanada o ran hynny.

  • Os oes gennych chi sylw gallwch ein e-bostio isod.

    Enw
    Eich cyfeiriad e bost
    Tref a Sir
    Eich sylwadau

    Ymwadiad: Gall y BBC olygu eich sylwadau ac ni fedrwn warantu y bydd pob neges e-bost yn cael ei chyhoeddi.
    Efallai y bydd eich sylwadau'n cael eu cyhoeddi gan y BBC drwy'r byd.





  • O Vaughan i Fynwy


    DIWEDDARA

    O'R ARCHIF
    SYLWADAU 2006
     
    WEDI ETHOLIAD 2005
     
    HYNT A HELYNT YR YMGYRCH
     
    SYLWADAU CYN YR ETHOLIAD
     
    SYLWADAU 2004
     



    Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


    Yn ôl i'r brig ^^