BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 11 Rhagfyr 2006, 15:29 GMT
Llifogydd: Achub dyn o bont
Damwain ffordd
Bu'r gyrrwr yn gaeth yn y llifogydd fore Llun

Bu raid i ddyn adael ei gar ar Bont Dyfi ar yr A487 ym Machynlleth wedi i ddiffoddwyr tn ei gyrraedd fore Llun.

Roedd wedi bod yn gaeth yn y llifogydd.

Mae Canolfan Dywydd wedi dweud fod y glaw dros y gogledd nos Sul yn "eithriadol".

Rhwng hanner dydd dydd Sul a 7am fore Llun roedd 10.9cm neu 4.3 modfedd wedi cwympo ar orsaf dywydd Capel Curig, Eryri.

Mae disgwyl y bydd mwy na 12cm (5 modfedd) yn ddiweddrach ddydd Llun.

Tirlithriad

Cafodd dwy ln yr A470 yng Ngwynedd eu cau am gyfnodoherwydd tirlithriad.

Mae'n debyg taw glaw achosodd y tirlithriad, un filltir i'r gogledd o Fallwyd, rhwng y Trallwng a Dolgellau.

Straeon Poblogaidd Eraill

Cafodd gyrwyr eu hailgyfeirio cyn i'r heddlu glirio olion ar yr heol. Does dim gwybodaeth pryd y bydd yr heol yn ailagor.

Mae Network Rail wedi dweud fod lein Dyffryn Conwy rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog ar gau o hyd ar l llifogydd yr wythnos ddiwetha.

Dywedodd y cwmni y bydden nhw'n dweud pryd y byddai'r lein yn ailagor ar l i lefelau afonydd ostwng.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^