Cyngor: Stafelloedd sgyrsio
|
Mae pobol ifanc yn cael cyfle i rannu eu pryderon a thrafod achosion o fwlio homoffobig yn yr ysgol mewn sgwrs fyw ar y we ddydd Mawrth.
Mudiad Stonewall Cymru sy'n cynnal y digwyddiad yn ystod Wythnos Gwrth-Fwlio.
Yn y sesiwn rhwng 12pm a 6pm brynhawn Mawrth mae pobl ifanc yn cael siarad â chynrychiolwyr elusen Childline a llinell gymorth ar gyfer unigolion hoyw, lesbiaid neu bobl ddeurywiol.
Mae modd bod yn rhan o'r sgwrs ar wefan Credu.
'Dychrynllyd'
"Rydyn ni'n clywed am achosion dychrynllyd o fwlio bob wythnos ond eto ychydig iawn o bobl ifanc sy'n gwybod ble i fynd am gyngor a chefnogaeth," meddai Matthew Batten, swyddog polisi a materion cyhoeddus Stonewall Cymru.
"Bydd stafell sgwrsio 'Siaradwch Allan' yn rhoi cyfle i bobl ifanc rannu profiadau a chael cyngor cyfrinachol am ymdopi â bwlio gwrth-hoyw.
"Oherwydd natur anffurfiol stafelloedd sgwrsio, mae pobl ifanc yn aml yn teimlo'n fwy cyfforddus yn sgwrsio ar-lein nag ydyn nhw dros y ffôn."
Dywedodd Jonathan Green, rheolwr gwasanaethau Childline, fod bwlio homoffobig yn poeni elusennau plant fwy a mwy.
'Gwneud dim'
"Mae astudiaeth o alwadau i Childline yn rhoi braslun o faint y broblem mewn ysgolion.
"Ac mae'r bobl ifanc sydd wedi ei chynnwys yn yr ymchwil yn nodi fod gormod o athrawon yn gwneud dim byd ynglŷn â bwlio homoffobig, a bod llawer o bobl ifanc yn ofni dweud wrth eu rhieni.
Mae elusennau plant yn gwybod am achosion o fwlio homoffobig
|
"Mae'r rheiny sydd wedi cael eu cynghori gan Childline ynglŷn â bwlio homoffobig yn dweud eu bod yn teimlo'n ofnadwy o unig ac ynysig, ac yn credu nad oes ganddyn nhw unrhyw le arall i droi."
Dywedodd Debbie Lane o linell gymorth LHDT Cymru fod y gwasanaeth wedi helpu llawer o bobl ifanc oedd yn ansicr am eu rhywioldeb ac wedi cael eu bwlio yn yr ysgol.
"Mae siarad â phobl ifanc mewn stafelloedd sgwrsio'n golygu y gallwn ni estyn allan a chynnig cefnogaeth mewn ffordd sy'n berthnasol iddyn nhw," meddai.