BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 18 Tachwedd 2006, 11:27 GMT
£715,000 at Blant Mewn Angen

Pudsey
Cafodd £18.3 miliwn ei godi trwy Brydain at apÍl Plant Mewn Angen

Cafodd mwy na £18.3m ei godi gan bobol ar draws Prydain ddydd Gwener yn ystod diwrnod a rhaglen deledu Plant Mewn Angen y BBC.

Yng Nghymru cafodd £715,884 ei gasglu yn ystod y dydd gan lu o weithgareddau ar hyd a lled y wlad i gefnogi'r apÍl flynyddol.

Roedd 'na dorf o 10,000 o bobol ym Mae Colwyn nos Wener i weld nifer o gantorion a grwpiau'n perfformio gan gynnwys Ronan Keating, The Alarm, Jamelia, The Feeling ac Elin Fflur.

Ar un adeg roedd 'na bryder na fyddai'n bosib cynnal y cyngerdd wedi i wyntoedd cryfion nos Fercher achosi difrod i'r llwyfan ym Mharc Eirias.

Torri record

Bu'n rhaid trefnu mwy o weithwyr ddydd Iau i roi to newydd ar y llwyfan a dydd Gwener dywedodd swyddogion diogelwch fod modd i'r digwyddiad fynd yn ei flaen.

Ronan Keating yng nghyngerdd Plant Mewn Angen Bae Colwyn
Ymhlith y perfformwyr ym Mae Colwyn roedd Ronan Keating

Dyma oedd y cyngerdd mwya yng Nghymru erioed fel rhan o weithgareddau Plant Mewn Angen.

Ar draws Prydain fe gafodd y record ei thorri unwaith eto ar y diwrnod ac fe fydd mwy o arian yn cael ei gyfrannu dros yr wythnosau nesa.

Y gobaith yw y bydd y cyfanswm yn y pen draw yn uwch na'r £33.2 miliwn gafodd ei godi yn 2005.

Taith yr Arth

Cafodd cannoedd o ddigwyddiadau difyr a doniol eu cynnal trwy Gymru i gefnogi'r apÍl.

Bu Radio Cymru ar daith drwy ganol Cymru i glywed am rai o'r pethau roedd pobol yn ei wneud i godi arian.

Plant yn codi arian at Blant Mewn Angen ym Mhorthmadog
Plant yn codi arian at Blant Mewn Angen ym Mhorthmadog

Ac fe dalodd gwrandawyr am wasanaethau rhai o gyflwynwyr yr orsaf.

Bu Gaynor Davies yn godro gwartheg a Dylan Jones yn helpu i baratoi cae Clwb PÍl-droed Llangefni.

Ac fe fu Garry Owen yn dosbarthu llythyrau a Geraint Lloyd yn golchi cerbydau.

Os ydach chi am gyfrannu i'r apÍl ffoniwch 08457 33 22 33.




HEFYD
Pudsey'n pasio prawf diogelwch
17 Tach 06 |  Newyddion
Plant mewn Angen: Difrod
16 Tach 06 |  Newyddion
Dros £700,000 i Blant Mewn Angen
19 Tach 05 |  Newyddion
O Dafydd Iwan i'r Sex Pistols
15 Tach 05 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^