Mae Agored yn cydweithio â'r ffeiliau sydd ar gyfrifiaduron eisoes
|
Mae'r prosiect meddalwedd Cymraeg "mwyaf erioed" wedi cael ei lansio yng Nghaerdydd
Nod Agored yw hwyluso gwaith swyddfa ddwyieithog wrth symud rhwng y Gymraeg a'r Saesneg heb ail-gychwyn y cyfrifiadur nac ail-lwytho meddalwedd.
Mae rhaglen trin a phrosesu geiriau, rhaglen daenlenni, rhaglen ddarlunio, rhaglen llunio a dangos sleidiau a rhaglen fathemateg.
Yn y ddwy iaith mae'r holl orchmynion a negeseuon ar gael ac mae modd gwirio sillafu Cymraeg a Saesneg o fewn yr un testun.
Fersiwn o'r rhaglen OpenOffice sy'n cael ei ddefnyddio drwy'r byd yw Agored.
'Cam mawr'
Mae'r prosiect, gafodd ei ddatblygu gan Ganolfan Mercator yn Aberystwyth, wedi ei gefnogi'n ariannol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, S4C a Bwrdd yr Iaith.
Wrth lansio'r rhaglen dywedodd Alun Pugh, Gweinidog dros Ddiwylliant, Y Gymraeg a Chwaraeon: "Mae'n gam mawr ymlaen tu fewn i'r strategaeth technoleg wybodaeth y mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi'i datblygu fel rhan o Iaith Pawb sef strategaeth Llywodraeth y Cynulliad i'r iaith."
Cafodd 500,000 o eiriau eu cyfieithu a chafodd llawlyfr ei ysgrifennu.
Yn ôl Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith, Agored yw'r "datblygiad pwysig diweddaraf mewn cyfres o ddatblygiadau ym myd technoleg Cymraeg."