BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 8 Tachwedd 2006, 16:55 GMT
Niwro: 'Angen ailystyried'
Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd
Mae dau ysbyty yn cynnig y llawdriniaeth ar hyn o bryd

Mae'r Gweinidog Iechyd wedi gofyn i Gomisiwn Iechyd Cymru ailystyried cynnig i ganoli gwasanaethau niwrolegol yng Nghaerdydd.

Dywedodd y Dr Brian Gibbons fod maint y gwrthwynebiad yn golygu y dylai'r comisiwn gymryd mwy o amser i ystyried y cynnig.

Daeth yr ymgynghori i ben ar Hydref 30 ac roedd gan gynghorau iechyd chwe wythnos cyn ymateb.

Yng nghanol Hydref galwodd dau weinidog ymhlith pum Aelod Cynulliad am ddiogelu uned niwrolegol Ysbyty Treforys yn Abertawe.

Roedd y pump wedi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd yn gofyn iddo bwyllo cyn penderfyniad terfynol.

Y pump oedd Edwina Hart, Andrew Davies, Gwenda Thomas, Val Lloyd a Catherine Thomas a gofynnon nhw i Dr Gibbons ystyried dau ffactor hollbwysig cyn penderfynu'n derfynol - yr adolygiad o Wasanaeth Ambiwlans Cymru ac ad-drefnu gwasanaethau ysbyty yn y canolbarth a'r gorllewin.

Un ysbyty

Roedd arolwg Comisiwn Iechyd Cymru o wasanaethau llawdriniaeth nerfol yng Nghaerdydd ac Abertawe wedi dweud fod angen uned llawdriniaethau oedolion mewn un ysbyty.

Llawdriniaeth nerfol yw niwrofeddygaeth, llawdriniaeth oherwydd clefydau'r pen, yr ymennydd a'r asgwrn cefn.

Yng Ngorffennaf dywedodd Ymddiriedolaeth Iechyd Abertawe fod y penderfyniad yn "wallus iawn" ac wedi "ei seilio ar gasgliadau anghywir".

Ond dywedodd Ymddiriedolaeth Iechyd Caerdydd a'r Fro ei bod yn croesawu'r penderfyniad.

Cefnogi

Ar hyn o bryd mae llawdriniaethau ar gyfer oedolion yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ac yn Ysbyty Treforys.

Cafodd llawdriniaethau plant eu symud o Abertawe i Gaerdydd yn Nhachwedd 2004 ac roedd rhai wedi poeni y byddai'r un drefn yn cael ei gweithredu yn achos llawdriniaethau oedolion.




HEFYD
Niwro: Gwasanaeth i Gaerdydd
24 Tach 04 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^