BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 2 Tachwedd 2006, 13:20 GMT
Pôl: Mwy o blaid annibyniaeth
Alex Salmond, arweinydd SNP
SNP: Cynnal refferendwm os ydyn nhw'n ennill grym

Mae mwyafrif pobl yr Alban o blaid annibyniaeth, medd arolwg barn sy wedi ei gyhoeddi 300 o flynyddoedd ers deddf uno â Lloegr.

Yn ôl arolwg ICM, roedd 51% yn ffafrio annibyniaeth.

Hwn yw'r tro cynta i arolwg ddangos cymaint o blaid annibyniaeth ers 1998, y flwyddyn cyn i'r Alban bleidleisio o blaid datganoli.

Yn ôl yr arolwg, mae 39% o Albanwyr o blaid y drefn bresennol a 10% heb benderfynu.

Straeon Poblogaidd Eraill

Holodd ICM 1,000 o bobl.

Cynhaliwyd yr arolwg chwe mis cyn etholiadau Senedd yr Alban.

Mae arolygon eraill yn ddiweddar wedi dangos mwy o gefnogaeth i'r blaid genedlaethol yr SNP.

Os ydyn nhw'n ennill grym, medd yr SNP, bydden nhw'n cynnal refferendwm ar annibyniaeth o fewn pedair blynedd.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^