BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 1 Tachwedd 2006, 15:41 GMT
Pennaeth heddlu o dan y lach
Richard Brunstrom
Bydd yr ASau yn trafod Richard Brunstrom ddydd Mercher

Mae ASau Llafur wedi beirniadu prif gwnstabl yr heddlu, Richard Brunstrom.

Bydd yr ASau yn cyfarfod yn Llundain i drafod eu "pryderon" ddydd Mercher.

Mae Ian Lucas, AS Wrecsam, wedi dweud i Mr Brunstrom anwybyddu ceisiadau am gyfarfod ag ASau lleol.

Roedd AS Alun a Glannau Dyfrdwy Mark Tami wedi honni bod Mr Brunstrom yn gwastraffu arian ar "hyrwyddo'i hun" a chynnal ymchwiliadau mewnol "di-angen".

Dywedodd yr heddlu eu bod yn fodlon ymateb i Mr Tami petai'n cyflwyno pwyntiau iddyn nhw'n uniongyrchol.

Mae'r feirniadaeth ddiweddara ychydig o ddyddiau ar ôl i Heddlu'r Gogledd gyhoeddi 120 o ddiswyddiadau oherwydd prinder arian.

'Yn brysur'

Fe wnaeth y grŵp Llafur gyfarfod ag aelodau Awdurdod Heddlu'r Gogledd i drafod pryderon am gyllid ond doedd Mr Brunstrom ddim yn bresennol.

"Ysgrifennais i ato dri mis yn ôl yn gofyn am gyfarfod ond dwi ddim yn credu ein bod wedi cael ymateb," meddai Mr Lucas.

"Efallai ei fod yn rhy brysur yn ysgrifennu ei ddyddiadur ar y we," meddai wrth gyfeirio at flog Mr Brunstrom.

Ian Lucas AS
Mae Ian Lucas wedi galw am gyfarfod gyda Mr Brunstrom

Honnodd bod Mr Brunstrom yn ymosod ar y llywodraeth ond nad oedd yn gadael i aelodau etholedig wybod am ddatblygiadau fyddai'n effeithio ar etholaethau.

Dywedodd Mr Lucas fod ASau Llafur yn y gogledd wedi ymladd yn galed i gael adnoddau ychwanegol i'r heddlu.

Yn ôl Mr Tami, roedd mwy o blismyn yn y gogledd ond bod arian yn cael ei wastraffu ar hunanhyrwyddo.

"Rhaid codi cwestiynau fel faint y mae'r nifer o gyhoeddiadau am ddim yn ei gostio.

"Faint gafodd ei wario ar newid lliw'r wisg?

'Gwaith gwych'

"Rhaid i Mr Brunstrom ganolbwyntio ar wario arian cyhoeddus ar blismona yn lle hunanhyrwyddo ac ymchwil mewnol."

Dywedodd y dirprwy brif gwnstabl, Clive Wolfendale, fod datganiad Mr Tami yn "ddiangen".

"Fel aelod etholedig mae gan Mr Tami hawl i gael atebion i'w gwestiynau a byddai'n cael hynny petai'n cysylltu'n uniongyrchol â'r heddlu."

Dywedodd Cadeirydd Awdurdod Heddlu'r Gogledd, Ian Roberts, fod y "prif gwnstabl a'i dîm wedi gwneud gwaith gwych".

"Cafodd hyn ei adlewyrchu mewn asesiad yr wythnos ddiwetha oedd yn awgrymu fod Heddlu'r Gogledd ymysg pump ucha awdurdodau heddlu Cymru a Lloegr."




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^