Dywed y cwpl eu bod nawr yn cael help i ymopi
|
Mae cwpl o Gasnewydd yn dweud eu bod efallai ar eu hennill ar ôl cael eu carcharu am fethu ag anfon eu merch 14 oed i'r ysgol.
Cafodd Christopher a Deborah Haines garchar am bedwar mis ar ôl methu sawl gwaith â sicrhau bod eu merch yn mynd i'r ysgol.
Mae ystadegau gafodd eu cyhoeddi ddydd Mawrth yn dangos mwy o absenoldeb yn ysgolion uwchradd Cymru.
Er hynny, mae nifer y gwersi sy'n cael eu colli oherwydd triwantiaeth wedi gostwng ychydig ers y llynedd.
Ar gyfartaledd collodd disgyblion 15 diwrnod o'r ysgol y llynedd.
Mae'r Gweinidog Addysg Jane Davidson wedi dweud nad yw'n poeni'n ormodol ond dywedodd y byddai grŷp annibynol yn adolygu'r sefyllfa yn y dyfodol agos.
Cafodd Mr a Mrs Haines eu carcharu ar ôl i'w merch fod yn bresennol am chwe diwrnod allan o 113 yn gynharach eleni.
Bellach mae hi'n mynd i'r ysgol yn rheolaidd.
'Chwalu'
Pe baen nhw wedi cael mwy o help yn gynt, meddai'r teulu, bydden nhw wedi osgoi mynd i'r llys.
"Gan fod hyn wedi digwydd, ar un ystyr mae wedi bod o help. Gan fod ein merch mewn gofal erbyn hyn, rhaid iddi fynd i'r ysgol," meddai Mr Haines
"Ond mae'r holl beth wedi ein chwalu ni fel uned."
 |
CYFANSWM ABSENOLDEB 2005-6
Cymru: Disgyblion yn colli 9.9% o sesiynau hanner diwrnod
Lloegr: 7.9%
Caerdydd a Merthyr Tudful: 11% (ucha)
Sir y Fflint: 8.1% (isa)
Ffynhonnell: Llywodraeth Cynulliad Cymru
|
Y ddau oedd y cwpl cynta i gael eu carcharu am driwantiaeth, ond nid yr achos cyntaf yng Nghymru.
Yn Ebrill 2003 cafodd gwraig o Lanelli ei hanfon i garchar am fethu ag anfon ei mab i'r ysgol.
Cododd yr ystadegau absenoldeb ysgol rhwng Medi 2005 a Mai 2006 - mae'r rhain yn cynnwys salwch a gwyliau.
Ar gyfartaledd roedd disgyblion Cymru yn absennol am 9.9% o sesiynau hanner diwrnod.
Yn ôl arbenigwyr, rhai o'r prif resymau am driwantiaeth ydi bwlio, a'r ffaith nad yw'r cwricwlwm yn berthnasol.
Mae rhai wedi beio'r cynnydd yng nghost gwyliau yn ystod gwyliau ysgol sy'n golygu bod rhieni'n arbed arian drwy fynd â'u plant ar wyliau yn ystod tymor yr ysgol.