BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 31 Hydref 2006, 06:47 GMT
Irac: Pleidlais ar ymchwiliad
Aelod o Lu Awyr Prydain
Bydd y drafodaeth am rôl y llywodraeth cyn ac ar ôl y rhyfel

Am y tro cyntaf ers y rhyfel yn Irac bydd trafodaeth lawn yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Mawrth.

Mae disgwyl y bydd galw am sefydlu ymchwiliad i bolisďau'r llywodraeth.

Plaid Cymru a Phlaid Genedlaethol Yr Alban (SNP) sy'n galw am sefydlu pwyllgor Aelodau Seneddol i arolygu'r hyn ddigwyddodd cyn ac ar ôl cychwyn y rhyfel yno.

Dywedodd llefarydd ar ran y Prif Weinidog Tony Blair ei fod yn erbyn ymchwiliad tra bod milwyr Prydain yn dal yn Irac.

Cafodd cynnig Plaid Cymru a'r SNP ei gefnogi gan 160 o ASau, gan gynnwys 33 o aelodau Llafur, 60 Ceidwadwr a 59 o Ddemocratiaid Rhyddfrydol.

Gwelliant

Dywed y Ceidwadwyr eu bod nhw am gynnig gwelliant i gynnig y cenedlaetholwyr.

Maen nhw'n gofyn i'r llywodraeth addo ymchwiliad, unwaith y bydd llywodraeth Irac yn rheoli'r wlad yn llwyr.

Os na fydd y llywodraeth yn derbyn y gwelliant, yna mae disgwyl i 'r Ceidwadwyr bleidleisio o blaid cynnig Plaid Cymru a'r SNP.

Gallai hynny olygu fod y bledlais yn agos iawn.

Dywedodd Adam Price, AS a llefarydd Plaid Cymru ar amddiffyn, fod sut y cychwynnodd y rhyfel yn erbyn Irac yn codi cwestiynau mawr am ein proses ddemocrataidd.

"Rwy'n credu ei bod yn hanfodol bwysig ar gyfer democratiaeth ein bod ni'n yn gofyn pa dwyll a diffyg gallu a'n harweiniodd i ryfel yn y lle cynta."




HEFYD
Blair: Gwrthod 'bradychu' Irac
25 Hyd 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^