BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 30 Hydref 2006, 15:22 GMT
Uno: Anfodlon ar daliadau
Heddlu
Roedd yr heddluoedd wedi gwneud cais am fwy 'na £100,000 yr un

Bydd heddluoedd Cymru a Lloegr yn cael bron £4 miliwn ar ôl i'r cynllun uno ddod i ben.

Nod yr arian ydi digolledu'r heddluoedd ar ôl iddyn nhw baratoi ar gyfer uno.

Ond dydi sawl llu, gan gynnwys tri o Gymru, ddim wedi cael cymaint o arian ag yr oedden nhw am ei gael.

Roedd y 43 wedi amcangyfri costau o £6.5 miliwn.

Cafodd y cynlluniau i gwtogi nifer heddluoedd o 43 i 24 eu gwrthod yng Ngorffennaf ar ôl llawer o wrthwynebiad.

£100,000

Fydd yr un llu yng Nghymru yn cael mwy na £100,000.

Bydd Heddlu Dyfed Powys, Gogledd Cymru a De Cymru ar eu colled tra bydd Heddlu Gwent yn cael y swm y gofynnwyd amdano sef £96,467.

Straeon Poblogaidd Eraill

Roedd Heddlu Dyfed Powys wedi gwneud cais am £225,891; Gogledd Cymru £245,020 a Heddlu'r De £326,944.

Dadl Llywodraeth y Deyrnas Unedig oedd y byddai lluoedd mwy, i raddau, yn atal ymosodiadau terfysgol.

Ond yng Ngorffennaf penderfynodd y llywodraeth roi'r gorau i'r cynlluniau oherwydd ffrae am y gost derfynol.




HEFYD
Uno heddluoedd: Mwy na £1m
11 Medi 06 |  Newyddion
Uno heddlu: Bil o £375,000
21 Gorff 06 |  Newyddion
Uno heddluoedd: Amheuon
11 Gorff 06 |  Newyddion
Heddlu: Cynllun yn 'gamarweiniol'
29 Maw 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^