BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 30 Hydref 2006, 08:09 GMT
Hammam: 'Taclo hwliganiaid'
Sam Hammam
Hammam: Wedi taclo hwliganiaid yn ystod ei gyfnod yng Nghaerdydd

Wrth adael Clwb PÍl-droed Caerdydd dywedodd Sam Hammam y byddai'n cael ei gofio am sut y taclodd hwliganiaid.

Dywedodd cyn-gadeirydd clwb yr Adar Gleision iddo ymdrin ‚'r broblem drwy "gyfarfod ‚ nhw er mwyn trechu'r broblem".

"Pan ydych chi'n gwneud cysylltiad ‚ nhw a thrafod rydych chi'n sylweddoli pa mor bositif ydyn nhw," meddai.

Bydd Peter Risdale yn olynu Mr Hammam ym Mharc Ninian.

"Dydyn nhw (hwliganiaid) ddim yn mynd i gemau i ymladd bellach," meddai Mr Hammam.

Ond mae cyn-brif arolygydd Heddlu'r De, Gerry Toms, wedi dweud bod ffactorau eraill wedi arwain at lai o hwliganiaid.

"Does dim dwywaith bod Sam wedi bod yn eiddgar ac mae wedi gwneud cyfraniad ond rhaid edrych ar ffactorau eraill fel stiwardio mewn gemau sydd wedi gwella dros y blynyddoedd diwethaf."

Gelynion

Cafodd Mr Hammam ei feirniadu oherwydd ei benderfyniad i drafod.

Dywedodd bod rhai o'r hwliganiaid yn bobl ddymunol, pobl oedd yn angerddol am eu clwb.

"Mae llawer o bobl wedi eu magu i ystyried yr heddlu, barnwyr a chyfreithwyr - unrhyw un sydd ‚ chysylltiad gyda'r sefydliad - yn elyn," meddai Mr Hammam.

"Wrth drafod gyda nhw maen nhw'n ddisgybledig ac yn bositif," ychwanegodd.

Gostwng wnaeth y rhai gafodd eu harestio mewn gemau yn ystod tymor 2005-6 o 77 i 55.

"Mae fy nulliau'n glir - cyfarfod ‚'r hwliganiaid i drafod a threchu'r broblem," meddai Mr Hammam.

"Erbyn hyn mae heddluoedd drwy Brydain yn dilyn yr un drefn."




HEFYD
Hammam yn gadael Caerdydd
22 Hyd 06 |  Newyddion
Gwahardd cyn warchodwr Hammam
15 Awst 03 |  Newyddion
Dirwy o £20,000 i glwb Caerdydd
16 Mai 02 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^