Roedd mwy na 100 o fyfyrwyr yn protestio yn y llyfrgell
|
Mae myfyrwyr Aberystwyth wedi meddiannu prif lyfrgell coleg y brifysgol fel rhan o ymgyrch i sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg.
Cychwynnodd y brotest wrth i staff y coleg baratoi i gau Llyfrgell Hugh Owen am 2200 nos Fercher.
Dywedodd llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth Menna Machreth fod "ymhell dros 100" o fyfyrwyr yn y brotest ac mai'r bwriad oedd aros yn yr adeilad tan hanner nos.
Arwyddocâd amseriad y brotest, meddai, oedd teimlad y myfyrwyr "ei bod yn hanner nos ar addysg Gymraeg" os na fyddai galwad am sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg yn cael ei wireddu.
Dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol nad oedd am wneud sylw am y brotest.
'Buddsoddi'n helaeth'
Bu protest yn Chwefror y llynedd ac mae'r myfyrwyr wedi dweud nad oes dim wedi newid i gryfhau'r ddarpariaeth addysg Gymraeg ers hynny.
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi dweud ei bod hi a'r Cynulliad Cenedlaethol yn buddsoddi'n helaeth mewn swyddi, cymrodoriaethau ac ysgoloriaethau "fydd yn cryfhau'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg".
Galw y mae'r protestwyr am sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg
|
Yng Ngorffennaf daeth BBC Cymru i ddeall fod grŵp llywio gafodd ei sefydlu gan Brifysgol Cymru i ystyried y posibilrwydd o greu Coleg Ffederal Cymraeg wedi gwrthod y syniad.
Mae'r grŵ wedi argymell cynllun sy'n adeiladu ar y ddarpariaeth bresennol drwy gyfrwng y Gymraeg ac wedi dadlau nad oes modd sefydlu coleg ffederal am fod y sefydliadau addysg uwch yn erbyn y cynllun.
Dywedodd myfyrwyr Aberystwyth eu bod yn protestio nos Fercher "i ddangos anniddigrwydd ... am y sefyllfa druenus bresennol o ran addysg cyfrwng Cymraeg yn ein prifysgolion".
'Amhosib parhau'
"Daw myfyrwyr i'r brifysgol gan ddisgwyl parhau â'u haddysg cyfrwng Cymraeg ar ôl derbyn eu holl addysg drwy'r Gymraeg yn yr ysgol uwchradd ond, yn anffodus, nid yw hyn yn bosib yn y rhan fwyaf o bynciau," meddai Tomos Dafydd, myfyriwr gwleidyddiaeth yn ei drydedd flwyddyn.
Mae bwriad i'r brotest ddod i hen am hanner nos
|
Dywedodd y myfyrwyr eu bod yn anfodlon ar adroddiad gyhoeddwyd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn yr haf am nad yw cynnig mwy o fodiwlau "fan hyn a fan draw" yn ddigonol.
Mae Undebau Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth, Bangor a Chaerdydd wedi cyhoeddi argymhellion eu hunain i ddatblygu addysg uwch Gymraeg ac yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i:
Sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg gyda changhennau mewn nifer o sefydliadau addysg uwch Cymru a system weinyddol ei hun gyda'r grym i ddyfarnu graddau;
Creu corff cynllunio cenedlaethol addysg uwch cyfrwng Cymraeg i fod yn gefn i ddatblygiad coleg ffederal gyda phŵer cynllunio i flaenoriaethu pynciau a phenderfynu yn lle leoliad y dylen nhw gael eu datblygu;
Neilltuo cyllid mewn un gronfa arbennig i ariannu addysg uwch cyfrwng Cymraeg, ac i roi mwy na'r 0.5% sy'n cael ei wario ar y maes ar hyn o bryd er mwyn penodi staff darlithwyr;
Creu strwythur gweinyddol cryf i oruchwylio, gweithredu a monitro gwariant a datblygu; ac
Arbrofi gyda'r dulliau diweddaraf i wneud yn siŵr fod gwell cyfle i fyfyrwyr allu dilyn y modylau o'u dewis yn y Gymraeg lle bynnag y maen nhw'n astudio.
Dywedodd Ms Machreth: "Dangosodd yr Asesiad Opsiynau a gyhoeddwyd yn ystod yr haf nad yw'r prifysgolion yn barod i dderbyn yr her o sefydlu strwythur newydd i roi addysg Gymraeg yn ganolog i weithgarwch academaidd Cymru.
"Rhaid i ni fel myfyrwyr ddangos nad ydym am ddioddef mwy o'r bodloni ar seminar fan hyn a fan draw drwy'r Gymraeg.
"Rydym yn galw ar bawb sy'n ymwneud ag addysg uwch i ystyried ein galwadau am Goleg Ffederal yn ddwys er mwyn sicrhau ffyniant addysg Gymraeg yn y dyfodol."