Mae modd gwylio dramâu a ffilmiau yn Galeri
|
Mae canolfan gelfyddydol yn y gogledd wedi ennill gwobr Brydeinig am ei chyfraniad i'r gymuned leol.
Fe agorodd canolfan Galeri yng Nghaernarfon, ar gost o £7.5 miliwn ym Mawrth 2005 ar ôl 10 mlynedd o gynllunio.
Mae theatr a sinema 400 sedd, ystafelloedd ar gyfer 27 busnes ac maen nhw'n cyflogi 86 o weithwyr.
"Mae hyn yn dangos effaith y prosiect ar y dref," meddai Gwyn Roberts, prif weithredwr Galeri Caernarfon.
Cafodd 20 o adeiladau gwag eu hadnewyddu fel rhan o'r cynllun.
"Mae gwaith Galeri yn cyflwyno prosiectau cymunedol wrth ddatblygu sylfaen busnes," meddai Mr Roberts.
Derbyniodd y Galeri wobr o £5,000 mewn seremoni yn Llundain nos Fercher.
 |
Straeon Poblogaidd Eraill
|
Cafodd y siec ei chyflwyno gan y Gwir Anrhydeddus Margaret Hodge, y gweinidog dros ddiwydiant a'r rhanbarthau yn Adran Diwydiant a Masnach llywodraeth San Steffan.
Mae'r wobr yn cydnabod i'r ganolfan fabwysiadu agwedd fentrus tuag at ddatrys problemau cymdeithasol.
Ers iddi agor mae'r ganolfan wedi cynnal sesiynau a digwyddiadau ar gyfer gwahanol garfanau gan gynnwys gweithdai ar gyfer plant a phobol ifanc, ac ar gyfer yr anabl.
Bob mis mae cantorion a grwpiau'n perfformio mewn cyngherddau arbennig yn y prynhawn ar gyfer pobl hŷn, ac mae sesiynau ffilm achlysurol ar gyfer rhieni a babis.
Nod y ganolfan yw creu cyfleoedd i bobl fel unigolion sy'n byw mewn cartrefi henoed neu famau sy'n bwydo o'r fron fwynhau digwyddiadau celfyddydol yn ystod y dydd gan ei bod yn anodd iddyn nhw fynd allan gyda'r hwyr.