BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 26 Hydref 2006, 06:38 GMT 07:38 UK
'Hanner nos ar addysg Gymraeg'
Protest myfyrwyr Aberystwyth
Bu mwy na 100 o fyfyrwyr yn protestio

Bu mwy na 100 o fyfyrwyr yn protestio nos Fercher ym mhrif lyfrgell Prifysgol Cymru Aberystwyth.

Roedden nhw'n galw am sefydlu coleg ffederal er mwyn cael eu haddysgu'n gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn Űl y myfyrwyr, dylai unrhyw Gymro neu Gymraes gael cyfle i ddilyn addysg brifysgol drwy gyfrwng ei mamiaith.

Cychwynnodd y brotest wrth i staff y coleg baratoi i gau Llyfrgell Hugh Owen am 2200.

Dywedodd llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth Menna Machreth mai'r bwriad oedd aros yn yr adeilad tan hanner nos.

Arwyddoc‚d amseriad y brotest, meddai, oedd bod y myfyrwyr yn teimlo "ei bod yn hanner nos ar addysg Gymraeg" os na fyddai galwad am sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg yn cael ei wireddu.

'Strwythur cadarn'

"Fel myfyrwyr rydym yn credu'n gryf bod ganddon ni hawl i dderbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg," meddai Ms Machreth.

"Trwy'r ysgol gynradd ac uwchradd rydym wedi cael addysg i gyd drwy'r Gymraeg.

Protest myfyrwyr Aberystwyth
Fe ddaeth y brotest i ben am hanner nos

"Yn y brifysgol mae 'na seminar fan hyn a fan draw sydd ddim yn ddigon."

Dywedodd fod angen "strwythur cadarn" i sicrhau datblygu adnoddau drwy'r Gymraeg.

"Rydym yn meddiannu'r llyfrgell er mwyn tynnu sylw a fyddwn ni ddim yn gadael tan hanner nos.

"Os na fydd 'na ddim byd radical yn cael ei wneud bydd yn hanner nos ar addysg Gymraeg."

Dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol nad oedd am wneud sylw am y brotest.




HEFYD
Protest dros addysg Gymraeg
26 Hyd 06 |  Newyddion
'Gwrthod coleg ffederal Cymraeg'
11 Gorff 06 |  Newyddion
Protest o blaid addysg Gymraeg
22 Chwef 05 |  Newyddion
Protest arall dros addysg Gymraeg
03 Tach 04 |  Newyddion
Prifysgol Cymru'n croesawu arian
03 Tach 04 |  Newyddion
Coleg 'wedi bradychu'r iaith'
24 Hyd 04 |  Newyddion
250 o fyfyrwyr mewn protest
19 Hyd 04 |  Newyddion
Sefyllfa'r iaith 'yn drychinebus'
03 Awst 04 |  Newyddion


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^