Dywed y cynghorydd bod digon o arwyddion Gaeleg yn bodoli
|
Mae cynllun i ddefnyddio mwy o'r iaith Aeleg yn wastraff amser ac egni, medd arweinydd Ceidwadol cyngor dinas yn Yr Alban.
Dywedodd y Cynghorydd Iain Whyte, arweinydd dinas Caeredin, fod cynnig i apwyntio swyddog polisi ar gyfer yr iaith yn "ddrud" ac "na fyddai llawer o bobl yn elwa".
Bydd mwy na 30 o gyrff cyhoeddus Yr Alban yn paratoi cynllun i ddefnyddio'r iaith bob dydd.
Mae Bòrd na Gàidhlig, asiantaeth ddatblygu'r iaith Aeleg gafodd ei sefydlu oherwydd Deddf yr Iaith Aeleg y llynedd, wedi anfon hysbysiad ffurfiol at chwe chorff cyhoeddus.
Bydd Caeredin a chynghorau eraill yn derbyn hysbysiad mewn dwy flynedd.
'Digon o arwyddion'
"Mae'n swnio fel gwastraff amser ac egni," meddai'r Cynghorydd Whyte.
"Eisoes mae digon o arwyddion Gaeleg a dwi ddim yn si?r a oes angen mwy i hyrwyddo'r iaith pan mae'r iaith yn annealladwy i ran fwya'r boblogaeth."
Ond mae Allan Campbell, prif weithredwr Bòrd na Gàidhlig, wedi amddiffyn y cynllun.
"Mae hyn yn adlewyrchu amcanion y Cynllun Cenedlaethol.
"Bydd y cynlluniau'n golygu y gall siaradwyr Gaeleg ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus yn eu hiaith eu hunain.
"Y gobaith yw y bydd mwy o gyfle i gyfathrebu yn yr Aeleg ac y bydd yr iaith yn cael ei hyrwyddo'n weledol."