BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 23 Hydref 2006, 12:41 GMT 13:41 UK
Hyper Value yn cau siopau
Hyper Value, Treganna, Caerdydd
Posteri cau mewn rhai siopau
Bydd cwmni Hyper Value yn cau naw siop yn ne Cymru oherwydd colledion ariannol.

Gwerthu nwyddau rhad y mae'r siopau hynny a chafodd y cwmni ei sefydlu yn 1980.

Does dim manylion am faint o swyddi fydd yn diflannu.

Mae arwyddion cau eisoes yn ffenestri rhai o'r canghennau a bydd chwe siop ar l.

Ym Merthyr Tudful mae pencadlys y cwmni sy'n cyflogi 400 yng Nghymru a de-orllewin Lloegr.

"Ers ychydig o flynyddoedd mae'r masnachu wedi bod yn is na'n disgwyliadau ni," meddai'r cadeirydd Ian Rogers.

"Felly rydyn ni wedi cau nifer o'n siopau sy'n gwneud colled.

"Byddwn ni'n ystyried mesurau a strategaeth ar gyfer gweddill y busnes."

Mae'r cwmni'n berchen ar Barc Pleser Ynys y Barri ond dywedodd y cwmni na fyddai effaith arno.

Y dyn busnes Ken Rogers gychwynnodd y gadwyn o siopau ac ar un adeg roedd ei ymerodraeth yn ymestyn i Southampton.

Dywedodd y cwmni y byddai'n gwerthu siopau Cheltenham, Caerloyw, Southampton, a Weston.

Yn Awst prynodd yr arbenigwr dyledion Hilco 50% o'r cwmni.




HEFYD
Ail archfarchnad yn cau mewn tref
16 Awst 06 |  Newyddion
Y cwsmer ola mewn siop deuluol
10 Ebr 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^