Mae Mrs Jones wedi bod yn talu ei chostau gofal ei hun
|
Bydd teulu gwraig oedrannus yn derbyn ad-daliad o gostau gofal o £42,000 ar ôl i undeb frwydro ar ran y teulu.
Bu undeb y dirprwyon NACODS yn brwydro i gael yr arian yn ôl am ddwy flynedd gan honni fod miloedd o bobl oedrannus yn gorfod talu'n annheg am lefydd mewn cartrefi nyrsio.
Dywed yr undeb mai'r gwasanaeth iechyd ddylai dalu am le mewn cartref nyrsio am ei fod yn syrthio dan faner 'gofal parhaol'.
Yn ôl llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Lleol Castell Nedd Port Talbot nid yw'n bosib rhoi sylw am unigolyn oherwydd cyfrinachedd cleifion.
Dywedodd: "Mi fydd y bwrdd yn glynu at argymhellion panel archwilio Bwrdd Iechyd Lleol Powys ac mi fydd yr arian yn cael ei dalu yn ôl fel mae'n briodol.
Un o'r achosion ydi Morfydd Jones, 85, sy'n dod o Ystalyfera, Castell Nedd Port Talbot, ond sy'n derbyn gofal ychydig filltiroedd i ffwrdd mewn cartref nyrsio ym Mhowys.
'Iechyd bregus'
Roedd Mrs Jones wedi dioddef cyfnod hir o iechyd bregus, gan gynnwys clefyd Alzheimer ac mae bellach angen gofal pedair-awr-ar-hugain yng nghartref nyrsio Cwrs Enfys yn Ystradgynlais.
Gwrthododd y bwrdd iechyd lleol dalu am ei lle er gwaethaf y ffaith ei bod angen gofal barhaus gyda chyfnodau yn yr ysbyty a bod ei hiechyd yn dirwyo.
Cysylltodd ei mab Arwel Jones â Bleddyn Hancock, ysgrifennydd cyffredinol NACODS yn ne Cymru gan ddadlau ei bod yn annheg bod ei fam yn gorfod talu am ei gofal iechyd.
Mae Mrs Jones wedi gwerthu ei chartref yn Ystalyfera oherwydd ei bod angen tŷ ar y gwastad ar ôl iddi ddioddef mwy nag un strôc.
Gwaethygodd ei chyflwr yn sydyn fodd bynnag a bu'n rhaid iddi fynd i ysbyty gymunedol Ystradgynlais.
Dylai pobl hŷn ddim gorfod talu am ofal nyrsio medd undeb NACODS
|
Oherwydd ei bod angen gofal barhaol fe symudodd hi wedyn i gartref nyrsio.
Yn ystod y ddwy flynedd bu'r undeb yn cefnogi'r teulu fe basiwyd yr achos yn ôl ac ymlaen rhwng byrddau iechyd lleol Castell Nedd Port Talbot a Phowys.
Pan glywyd yr achos dyfarnwyd y dylai Mrs Jones gael ei harian yn ôl gyda llog.
"Mae'n warthus ei bod wedi cymryd dwy flynedd i ddatrys hyn," meddai Mr Hancock.
"Mae'r ddau fwrdd iechyd wedi bod yn pasio'r peth yn ôl ac ymlaen, gan ohirio achos y teulu.
Ymddeoliad
Dywedodd Arwel Jones: "Doeddwn i erioed wedi credu dylai'r arian yma gael ei dalu gan fy mam.
"Os buasai hi wedi ennill y loteri fyddan ni ddim yn medru gwario'r arian achos ei chyflwr, ond nid dyna'r pwynt. Doedd wnelo hyn ddim byd ag arian.
"Roedd fy nhad yn arfer dweud wrtha' i ei fod yn talu i mewn i'w bension achos roedd o'n credu yn y system. Roedd o eisiau'r arian at eu hymddeoliad."
Ychwanegodd Mr Hancock: "Mae'r achos yma'n cefnogi'n safbwynt ni fod miloedd o bobl oedrannus yn gorfod talu - yn anghywir - am ofal mewn cartrefi nyrsio a henoed.
"Mae'n amlwg mai cyfrifoldeb y gwasanaeth iechyd ydi hyn, mae'n warthus eu bod nhw'n pasio'r gost ymlaen i bobl wael ac oedrannus."