BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sul, 22 Hydref 2006, 14:00 GMT 15:00 UK
Cwmni arall am 'brynu' Corus
Dur yn cael ei gynhyrchu
Mae Corus yn cyflogi 7,900 o weithwyr yng Nghymru

Mae adroddiadau bod cwmni dur o Frasil, CSN, yn bwriadu gwella ar gynnig cwmni Tata o India i brynu cwmni dur Corus.

Mae CSN wedi penodi banc sy'n arbenigo mewn buddsoddiadau, Lazards, i'w gynghori ar gynnig pris uwch, medd papur y Sunday Times.

tra bod cwmni dur o'r Almaen, Thyssenkrupp, wedi gwadu bod diddordeb ganddo i wella ar gynnig 4.3 biliwn Tata.

Cafodd y cynnig ei dderbyn gan Corus ddydd Gwener ond bydd rhaid i gyfranddalwyr gymeradwyo hyn.

Mae CSN yn disgrifio'i hun fel un o gwmnau dur mwya' America Lladin, sy'n cyflogi 8,000. Mae ganddo ganolfannau yn America a Phortiwgal.

Mae Corus yn cyflogi 47,300 o bobl dros y byd - gyda 7,900 o weithwyr yng Nghymru, gan gynnwys mwy na 3,000 ym Mhort Talbot.

Cafodd ei ffurfio ym 1999 ar l i gwmni British Steel uno chwmni Hoogovens o'r Iseldiroedd.

Os yw cynnig Tata yn cael ei gymeradwyo, hwn fydd y pumed cwmni dur mwayf yn y byd.

Mae gan Corus weithfeydd ym Mhort Talbot, Llanwern, Trostre a Shotton.

Yn l Tata mae'n bosib byddai pobl yn colli eu gwaith pe bai'r cynnig yn cael ei dderbyn.




HEFYD
Tata i Corus am 4 biliwn?
20 Hyd 06 |  Newyddion
Colli swyddi dur
10 Tach 04 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^