BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 17 Hydref 2006, 14:28 GMT 15:28 UK
'Angen adfer wal Tryweryn'
Cofiwch Dryweryn
Cyn dirywio: Wal Cofiwch Dryweryn

Mae'n debyg y bydd wal lle mae slogan am gofio boddi pentre 40 mlynedd yn l yn cael ei hadfer.

Cofiwch Dryweryn yw'r slogan enwog ar y wal yn Llanrhystud ger Aberystwyth.

Dywedodd y cyngor bro ei fod am ei diogelu am iddi ddirywio yn y blynyddoedd diweddar.

Cafodd y slogan ei sgrifennu yn fuan wedi i'r pentre enwog ger Y Bala gael ei foddi yn 1965.

"Mae rhan o'r wal wedi dod yn rhydd," meddai isgadeirydd y cyngor bro Glyn Davies "ac mae'r wal wedi dirywio ers blynyddoedd.

'Eicon'

"Ond mae'r cyngor yn moyn adfer y wal sy wedi troi'n eicon cenedlaethol, medd rhai."

Roedd ffermwr oedd yn berchen ar y wal, meddai, wedi cytuno ag atgyweirio fyddai'n costio 1,000.

"Mae angen pob ymdrech i helpu'r cyngor ddiogelu'r wal enwog hon," meddai Dafydd Morgan Lewis o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.

"Bydda i'n ysgrifennu at y cyngor er mwyn awgrymu cychwyn apl drwy Gymru i godi arian."

Dywedodd y mudiad Cadw na fyddai grant ar gael am nad oedd y wal yn gofeb gofrestredig nac yn adeilad hanesyddol.




HEFYD
Tryweryn: 'Dim angen boddi'r cwm'
09 Maw 06 |  Newyddion
Tryweryn: O blaid ymddiheuriad
20 Hyd 05 |  Newyddion
Tryweryn: Geiriad ymddiheuriad
12 Hyd 05 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^