Yn ôl arolwg mae'r parciau'n werth £177m i'r economi bob blwyddyn
|
Mae'r parciau cenedlaethol yn cyfrannu £177m y flwyddyn i economi Cymru ac yn cynnal 12,000 o swyddi, yn ôl arolwg gafodd ei gyhoeddi ddydd Mawrth.
Yn ôl yr arolwg mae ardaloedd y tu allan i'r tri pharc yng Nghymru hefyd yn elwa'n economaidd.
Mae'r astudiaeth "Gwerth ein Hamgylchedd" yn dweud fod Bannau Brycheiniog, Arfordir Sir Benfro ac Eryri yn creu delweddau cryf ar gyfer y diwydiant twristiaeth yng Nghymru.
Mae'r gwaith ymchwil hefyd yn dweud fod nifer o gyflenwyr a chontractwyr yn byw y tu allan i ardaloedd y parciau.
Dywedodd Iwan Hughes, Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, fod angen mesurau cryf i amddiffyn y parciau er mwyn sicrhau eu bod yn "parhau yn fudd i weddill Cymru".
Yn ôl yr astudiaeth mae Arfordir Sir Benfro yn cynnal 4,650 o swyddi, Eryri 4,000 a Bannau Brycheiniog 3,350
Yn ôl Aneurin Phillips, Prif Weithredwr Parc Cenedlaethol Eryri, mae'r gwaith ymchwil yn cadarnhau gwerth y parciau.
"Mae'n dangos sut mae tirwedd arbennig a bywyd gwyllt Eryri o fudd i'r economi leol."