BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 14 Hydref 2006, 12:00 GMT 13:00 UK
Drudwy yn heidio i Aberystwyth
Haid o ddrudwy (Llun gan David Kjaer a www.rspb-images.com)
Mae disgwyl 20,000 o ddrudwy yn Aberystwyth

Mae disgwyl i filoedd o ddrudwy heidio i Aberystwyth gyda'r nos dros yr wythnosau nesaf.

Dywedodd y gymdeithas adar yr RSPB Cymru bod disgwyl 20,000 o adar yn yr ardal.

Maen nhw yn hybu'r digwyddiad drwy annog pobl i dynnu lluniau o'r adar.

Dywedodd y gymdeithas bod yr adar yn clwydo o dan y pier yn y dref.

Dyma'r unig dref yng Nghymru lle maen nhw'n heidio, meddai'r gymdeithas.

Ers 1994 mae nifer y drudwy yng Nghymru wedi gostwng ac mae'r adar wedi eu rhoi ar y rhestr o rywogaeth mewn perygl.

Mae gan y gymdeithas gwarchod adar stondin ar lan y môr yn Aberystwyth er mwyn annog pobl i wylio'r adar ac i dynnu lluniau ohonyn nhw'n hedfan uwch ben y môr.

"Mae nifer yn methu credu bod y nifer yn gostwng mor sylweddol," meddai'r swyddog Joe Hawthorne.

"Ers 1994 mae'r ffigwr wedi gostwng dau draean.

"Mae'n anhygoel gweld 20,000 o adar yn hedfan fel un."




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^