BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 17 Hydref 2006, 13:44 GMT 14:44 UK
O Vaughan i Fynwy
Vaughan Roderick
Vaughan Roderick
BBC Cymru

Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru sy'n bwrw golwg ar faterion y dydd. Mae croeso i chi anfon eich sylwadau aton ni isod.

Dydd Mawrth, Hydref 17

Un o amryw fanteision o fod yn brif weinidog Cymru yw sicrhau'r swyddfa a rhai o'r golygfeydd gorau yng Nghymru.

O'i ffenestri ar bumed llawr Tŷ Crughywel mae Rhodri Morgan yn gallu bwrw ei lygaid dros banorama eang o Fae Caerdydd a holl fwrlwm y brifddinas.

Fe fyddai'r olygfa'n dod a gwen i wyneb y gwleidydd mwyaf sarrug ac mae Mr Morgan yn hoff o ganmol y datblygiadau sydd i'w gweld o'i gwmpas.

Ond mae 'na rywbeth yn eironig yn y sefyllfa. Wedi'r cyfan mae nifer sylweddol o'r datblygiadau sydd i'w gweld yn brosiectau a wrthwynebwyd gan y prif weinidog rhyw bryd neu'i gilydd.

Yn syth o'i flaen saif adeilad y senedd, yr adeilad ysblennydd sydd eisoes wedi denu dros chwarter miliwn o ymwelwyr a sicrhau llond cwpwrdd o wobrau.

Ron Davies oedd yn gyfrifol am gynlluniau'r senedd ac roedd Alun Michael yn frwdfrydig o blaid y cynllun; dim syndod efallai gan ei fod yn aelod seneddol dros Dde Caerdydd a Phenarth!

Roedd Rhodri Morgan ar y llaw arall yn llai cefnogol. Yn fuan ar ôl ei ddyrchafu'n brif weinidog rhoddodd stop ar y cynllun gan ddadlau o blaid codi estyniad ym maes parcio'r cynulliad.

Y cynllun hwnnw oedd testun disgrifiad enwog gan Glyn Davies "a bog on stilts".

Yn y diwedd collodd Rhodri Morgan y dydd a chodwyd yr adeilad y tu fas i'w ffenestr er cymaint ei wrthwynebiad.

Y drws nesa i'r senedd y saif Canolfan Mileniwm Cymru, palas arall i blesio llygaid y prif weinidog.

Ond roedd agwedd Rhodri tuag at y ganolfan ar hyd y blynyddoedd yn ddigon amwys.

Mae Zaha Hadid yn rhoi peth o'r bai am fethiant ei chynlluniau hi a Nicholas Edwards ar gyfer Ty Opera ar ysgwyddau Rhodri Morgan ac ar un adeg fe ddisgrifiodd Mr Morgan y ganolfan newydd fel "'white elephant with a rapacious appetite for public money."

I fod yn deg, yn y diwedd llywodraeth Rhodri Morgan wnaeth achub y cynlluniau er bod rhai yn amau mai'r gweinidog diwylliant Jenny Randerson ac nid y prif weinidog sy'n haeddu'r clod.

Os oedd agwedd Rhodri tuag at Ganolfan y Mileniwm yn amwys does dim dadlau ynglŵn â'i safbwynt ynglŵn â'r morglawdd a greodd llyn Bae Caerdydd.

Pe bai Rhodri Morgan wedi cael ei ffordd fyddai'r Bae o hyd yn hafan fwdlyd i adar môr yn hytrach na'r llyn prysur yn llawn cychod a welir heddiw.

Fe gymerodd Mesur Bae Caerdydd gyfnod hwy na'r un mesur seneddol arall yn holl hanes San Steffan i gyrraedd y llyfr statud.

Gwrthwynebiad dygn Rhodri Morgan a'i ddefnydd o bob un arf seneddol yn ei feddiant oedd yn bennaf gyfrifol am rwystro'r cynllun am flynyddoedd.

Yn ôl Mr Morgan ar y pryd fe fyddai'r morglawdd yn "drychineb ecolegol" a oedd yn ddim byd amgenach na " gweithred gosmetig i geisio denu hap-ddatblygwyr".

Os taw dyna oedd y bwriad, fe lwyddodd gyda dwsinau o ddatblygiadau sy'n cyfrannu miliynau o bunnoedd i economi Cymru.

Ar gofeb Christopher Wren yn Eglwys Gadeiriol Sant Paul ceir y geiriau hyn "Lector, si monumentum requiris, circumspice" sef "Darllenydd, os ceisiwch ei gofeb, edrychwch o'ch cwmpas".

Cofebion pwy tybed y mae Rhodri Morgan yn gweld wrth iddo syllu o'i swyddfa yn Nhŷ Crughywel?

Wedi'r cyfan enwyd yr adeilad hwnnw ar ôl Nicholas Edwards. O'i flaen saif senedd-dy Ron Davies. I'r dde mae Tŷ Opera Nicholas Edwards, neu ganolfan ddigon tebyg iddi.

Ar y gorwel mae'r morglawdd (Nicholas Edwards eto) ac ym mhob man arall y fflatiau siopau a bwytai a godwyd yn ei sgil.

Dyna'r eironi. Mae'r olygfa hyfryd o ffenest y prif weinidog yn gofeb i'w wrthwynebwyr gwleidyddol.

  • Os oes gennych chi sylw i'w wneud gallwch ein e-bostio isod.

    Enw
    Eich cyfeiriad e bost
    Tref a Sir
    Eich sylwadau

    Ymwadiad: Gall y BBC olygu eich sylwadau ac ni fedrwn warantu y bydd pob neges e-bost yn cael ei chyhoeddi.
    Efallai y bydd eich sylwadau'n cael eu cyhoeddi gan y BBC drwy'r byd.





  • O Vaughan i Fynwy


    DIWEDDARA

    O'R ARCHIF
    SYLWADAU 2006
     
    WEDI ETHOLIAD 2005
     
    HYNT A HELYNT YR YMGYRCH
     
    SYLWADAU CYN YR ETHOLIAD
     
    SYLWADAU 2004
     



    Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


    Yn ôl i'r brig ^^