Mae prisiau tai Gogledd Iwerddon yn codi
|
Mae 'na gynllun yng Ngogledd Iwerddon i gynnig tai fforddiadwy wrth i brsiau tai godi.
Ar gyfartaledd mae'r pris wedi codi £600 yr wythnos.
Mae'r cynllun yn Ballygalget yn Sir Down a nod y datblygwr yw codi 20 o dai ar gae yr oedd yr Eglwys Babyddol yn berchen arno.
Dywedodd y Tad Dermot McKay fod defnyddio'r cae wedi ei drafod am y tro cynta yn 1999.
"Y syniad oedd y gallai'r eglwys wneud rhywbeth o ran cadw'r gymuned yn fyw, yn enwedig o gofio bod tai'n brin yn yr ardal."
'Troi'r llanw'
Cafwyd caniatād cynllunio yr wythnos ddiwetha a bydd adeiladwyr yn cychwyn eu gwaith cyn y Nadolig.
Dywedodd y Tad McKay fod rheolau cynlluniau'n fwy llym nag o'r blaen.
"Yn aml iawn, mae safleoedd yn costio mwy na £100,000 a pha obaith sydd gan gwpl o gael yr arian i brynu cartre?"
Mae mynegai prisiau tai Prifysgol Ulster yn dangos bod pris tŷ ar gyfartaledd yng Ngogledd Iwerddon yn £162,821, sef £31,000 yn fwy na 2005.