BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 10 Hydref 2006, 18:11 GMT 19:11 UK
Dadl dros gerdyn Nadolig gweinidog
Mae Plaid Cymru wedi beirniadu Gweinidog Diwylliant y Cynulliad Cenedlaethol am iddo wario dros £3,000 o arian cyhoeddus er mwyn cael llun ohono'i hun yn dal gêm fwrdd boblogaidd.

Roedd cerdyn Nadolig swyddogol Alun Pugh y llynedd yn cynnwys llun ohono'n gafael yn fersiwn Cymraeg o'r gêm Scrabble.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad fod y cardiau yn syniad gwreiddiol er mwyn ceisio hybu proffil yr iaith.

Cafodd dros £3000 ei wario ar gostau cyfreithiol wrth geisio sicrhau hawlfraint i gyhoeddi lluniau o'r gêm.

Dywedodd cwmni Mattel nad oedden nhw wedi codi ffi ar gyfer defnyddio'r llun.

Fel y gweinidog â chyfrifoldeb am yr iaith Gymraeg, mae o wastad yn awyddus i hybu proffil yr iaith
Llefarydd ar ran Alun Pugh AC

Y llynedd fe wnaeth cwmni Mattel greu fersiwn Cymraeg o'r gêm fwrdd gyda chefnogaeth Cyngor Llyfrau Cymru.

Y gobaith oedd y byddai'n apelio at siaradwyr rhugl a dysgwyr.

Mae llefarydd diwylliant Plaid Cymru yn y cynulliad Owen John Thomas wedi beirniadu'r gwariant gan ddweud fod Mr Pugh wedi camddefnyddio arian cyhoeddus.

Scrabble yn Gymraeg
Mae'n bosib chwarae Scrabble yn Gymraeg ers y llynedd

"Fe ddylai fod yn talu am hyn yn bennaf o'i boced ei hun, oni bai wrth gwrs pan mae o'n gyrru cardiau at bobl mewn swyddi swyddogol mewn rhai cyrff llywodraethol ac ati," meddai.

Yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Nick Bourne, dylai Mr Pugh dalu'r arian o boced ei hun, gan gyhuddo'r gweinidog o fod yn hunan bwysig ac o "wastraff diangen o arian cyhoeddus."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad mai cost y cardiau Nadolig oedd £3,325. Roedd hyn yn cynnwys £180 am gostau argraffu, £88 costau tynnu llun a £3,057 mewn costau cyfreithiol.

Ychwanegodd y llefarydd fod Llywodraeth y Cynulliad eisiau cywiro rhai adroddiadau oedd yn dweud fod cwmni Mattel wedi derbyn unrhyw arian.


HEFYD
Chwilio am bencampwyr y geiriau
07 Mai 06 |  Newyddion
Gêm Gymraeg yn 'rhy boblogaidd'
23 Rhag 05 |  Newyddion
Chwarae Scrabble yn Gymraeg
04 Hyd 05 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^