Philip Madoc yn portreadu David Lloyd George yn y gyfres deledu
|
Mae plac wedi cael ei ddadorchuddio i nodi lleoliad ffilmio cyfres deledu am un o wleidyddion enwocaf Cymru.
Mae The Life and Times of David Lloyd George yn cael ei hystyried yn gyfres deledu arloesol.
Cafodd y seremoni ei chynnal yn Llanystumdwy 25 mlynedd wedi i BBC Cymru gynhyrchu'r gyfres.
Dyma'r plac diweddara mewn cyfres yng ngogledd Cymru i dynnu sylw at leoliadau ffilm yn yr ardal.
Yr actor a bortreadodd David Lloyd George yn y gyfres, Philip Madoc, gafodd y fraint o ddadorchuddio'r plac yn Amgueddfa Lloyd George yn Llanystumdwy ddydd Gwener.
'Atgofion hapus'
Cafodd y gyfres naw pennod ei hysgrifennu gan Elaine Morgan.
"Mae'r atgofion yn hapus am y cyfnod ffilmio," meddai John Hefin, cyfarwyddwr y gyfres.
"Roedd y teulu'n garedig, fe roddodd Y Foneddiges Olwen gymorth i ni a rhannu gwybodaeth.
David Lloyd George: 'Dyn hudolus' yn ôl cyfarwyddwr y gyfres
|
"Roedd Lloyd George yn ddyn hudolus iawn."
Dywedodd Richard Coombs o Gomisiwn Sgrîn Cymru: "Roedd y seremoni heddiw'n brofiad cofiadwy ac yn deyrnged teilwng i gyfres arloesol a adroddodd hanes rhyfeddol gwleidydd a Chymro o statws."
Nod y Llwybr Ffilm a Theledu yw denu ymwelwyr i ymweld â lleoliadau yng Nghymru lle y cafodd golygfeydd eu ffilmio ar gyfer rhaglenni teledu a ffilmiau adnabyddus.
Mae 12 o blaciau wedi eu gosod eisoes ac mae bwriad i osod 30 i gyd yn ystod y blynyddoedd nesaf.