BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 4 Hydref 2006, 12:30 GMT 13:30 UK
Tlodi Affrica: Help o Gymru
Pobl o Bontypridd  yn ymweld â Mbale yn Uganda
Mae'r cynllun am gefnogi prosiectau sy'n bod yn barod fel un sy'n cysylltu Pontypridd ag Uganda

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cyhoeddi cynllun swyddogol cynta Cymru i helpu taclo tlodi yn Affrica ac ymateb i argyfyngau dyngarol.

Y nod yw canolbwyntio ar wledydd fel Uganda, Lesotho a Somalia, sydd â chysylltiadau â Chymru.

Yn lle rhoi arian yn uniongyrchol i'r gwledydd hyn bydd y cynllun £500,000 yn cefnogi prosiectau yng Nghymru sydd â chysylltiadau â gwledydd y Trydydd Byd.

Y Prif Weinidog Rhodri Morgan ac Ysgrifennydd Datblygu Rhyngwladol Llywodraeth Prydain Hilary Benn lansiodd y cynllun ddydd Mercher.

Dywedodd Mr Morgan fod Llywodraeth y Cynulliad yn ymatateb i "alw drwy Gymru i gyfrannu fel gwlad at ddatblygu rhyngwladol".

Tswnami

Cyfaddefodd mai swm bach fyddai'r cyfraniad o Gymru o feddwl beth oedd maint y broblem ond dywedodd y byddai'n ychwanegu at gymorth Llywodraeth Prydain.

"Rydyn ni'n ceisio ymateb i'r prif flaenoriaethau, a gwneud yn siŵr fod y cymorth yn cael ei dargedu er mwyn iddo wneud gwahaniaeth."

Hilary Benn a Rhodri Morgan
Cafodd y cynllun ei lansio gan Hilary Benn a Rhodri Morgan yng Nghaerdydd

Bydd cymorth ariannol fel y gall grwpiau ymateb i argyfyngau er enghraifft Global Rescue Services ym Mhenmaenmawr, Sir Conwy, sy'n anfon criwiau a chŵn achub at wledydd tramor wedi trychinebau fel daeargryn neu tswnami.

Nod y cynllun newydd, meddai Mr Morgan, fyddai canolbwyntio ar brosiectau sydd eisoes mewn gwledydd fel Lesotho, Uganda ac Ethiopia.

Mae'r prosiectau hyn yn cynnwys prosiect iechyd Gwent Ethiopia, prosiect eglwysig yn ardal Pontypridd sy'n creu cysylltiadau ag Uganda, a chysylltiadau meddygol a deintyddol eraill ag ysgolion.

"Canolbwyntio y mae'r cynllun ar nifer fach o wledydd a'r math o gymorth allai arwain at well meddygon, athrawon a dinasyddion ...," meddai Mr Morgan.

Masnach deg

Dywedodd fod bwriad i droi Cymru'n wlad Fasnach Deg a chreu dolenni rhwng cymunedau Affricanaidd, yn enwedig cymunedau Somali de Cymru.

CRYNODEB Y CYNLLUN
Trosglwyddo a chyfnewid sgiliau ar arbenigedd
Cefnogi busnes a phrynu nwyddau
Cyrraedd targedau o ran lleihau tlodi erbyn 2015
Paratoi ar gyfer argyfyngau a helpu i drefnu gwirfoddolwyr
Annog gefeillio a lleoliadau gwaith o fewn y sector gyhoeddus
Helpu Cymru i fod yn wlad Fasnach Deg

Croesawodd Fatima Noor o'r Gymdeithas Integreiddio Somali yng Nghaerdydd y cynllun.

"Dwi'n meddwl ei fod yn wych fod Cymru'n cyfrannu ... Mae'n dda bod Cymru'n gwneud rhywbeth drostyn nhw (gwledydd Affrica)," meddai.

Ond rhybuddiodd un dyn Somali o'r brifddinas, Eid Ali Ahamed, fod 'na ben draw i'r hyn y gallai Llywodraeth y Cynulliad ei wneud.

'Codi gobeithion'

"Does gan y cynulliad ddim mo'r awdurdod na'r grym ar gyfer prosiectau mawr," meddai. "Mae'r hyn y gallan nhw ei wneud yn gyfyng.

Ymweliad aelodau prosiect ym Mhontypridd â Mbale yn Uganda
Mae meddygon o Gymru eisoes yn helpu pobl yn rhai o wledydd Affrica

"Ddylen ni ddim codi gobeithion a dweud fod rhywbeth mawr yn mynd i ddigwydd."

Dywedodd Ibrahim Ahbi, o gymuned Somali Caerdydd, y dylai'r llywodraeth ofyn iddyn nhw sut help yn union oedd angen arnyn nhw ac mai rhoi mwy o rym i'r cymunedau fyddai'r ffordd orau i'w helpu.

"Dylen ni greu prosiectau sy'n mynd i greu gwaith neu fe ddylen ni helpu plant i gael eu haddysgu'n dda," meddai.

"Drwy hynny gallan nhw helpu eu hunain yn lle dibynnu ar eraill."




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^