BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 2 Hydref 2006, 16:11 GMT 17:11 UK
Ceidwadwyr: 'Mwy o rym lleol'
Nick Bourne AC a Cheryl Gillan AS
Ceidwadwyr Cymru yn benderfynol o herio Llafur
Dylid mynd â datganoli gam ymhellach, medd arweinydd y Ceidwadwyr yn y cynulliad, Nick Bourne.

Fe fu Mr Bourne, AC Gorllewin a Chanolbarth Cymru, yn annerch cynadleddwyr ei blaid yn Bournemouth ddydd Llun.

Pwysleisiodd bwysigrwydd y gymuned leol gan ddadlau bod yn rhaid i benderfyniadau gael eu gwneud ar lefel leol.

Y neges hon, meddai, fyddai'n amlwg yn ymgyrch ei blaid yn etholiadau'r cynulliad ym Mai 2007.

"Rhaid rhoi grym i bobl ym mhob stryd, ym mhob cymuned ac ym mhob tref a phentref.

Prawf 'go iawn'

"Byddwn yn ymestyn ffiniau datganoli i'r eitha, yn rhoi llais i bobl Cymru er mwyn iddyn nhw gael penderfynu'r dyfodol," meddai.

Dywedodd y byddai'r Ceidwadwyr yn adolygu Deddf yr Iaith er mwyn creu Cymru fyddai'n "wir" ddwyieithog.

Yn ei araith ddydd Lun bu'n sôn am yr amgylchedd a'r angen am "ddewis" ym meysydd addysg ac iechyd.

Dywedodd Cheryl Gillan AS, llefarydd y blaid ar Gymru, y byddai etholiadau'r cynulliad yn "brawf go iawn" i'r Ceidwadwyr.

Bydd hi'n annerch y cynadleddwyr ddydd Mawrth.

Rhybuddiodd y byddai'r Blaid Lafur yn chwarae'n fudur ond bod rhaid i'r Ceidwadwyr gael mwy o seddi ar Fai 3.




HEFYD
Torïaid yn barod i lywodraethu
01 Hyd 06 |  Newyddion
Cais Cameron i 'newid' ei blaid
05 Maw 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^