|
Bethan James
Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru
|
Dyma fydd cynhadledd gyntad Mr Cameron fel arweinydd
|
Ym mis Hydref 2005 fe wnaeth gwleidydd ifanc ag amhrofiadol gyflwyno ei weledigaeth ar gyfer y Blaid Geidwadol a llwyddodd i berswadio ffyddloniaid traddodiadol y blaid mai fe oedd y person gorau i'w harwain.
Flwyddyn yn ddiweddarach, mae David Cameron wedi tywys aelodau'r blaid i lan y môr.
Ond nid hufen iâ a gorffwyso ar draethau Bournemouth fydd hi ar gyfer plaid sy'n breuddwydio am bwer unwaith eto.
Dyma gynhadledd Brydeinig gynta Mr Cameron fel arweinydd y Ceidwadwyr.
Dros y flwyddyn diwetha mae o wedi dangos plaid sy'n raddol newid - ond a fydd Mr Cameron yn datblygu gelynion o fewn y teulu gwleidyddol oherwydd ei syniadau i foderneiddio'r blaid?
Dros y pythefnos diwetha mi wnaeth nifer o gynadleddwyr y Blaid Lafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol gyfadde eu bod nhw'n sylweddoli fod Mr Cameron wedi ennill cefnogaeth yr etholwyr.
Aelodau Cymru
Ond maen nhw'n amau y bydd yn llwyddo i dderbyn cefnogaeth yr hen Geidwadwyr.
Mi fydd yr arweinydd yn siarad o lwyfan y gynhadledd ddwywaith yr wythnos hon.
Fe fydd yn cychwyn nos Sul gyda'i ddadansoddiad o'r blaid yn y gorffennol a'r blaid ar gyfer y dyfodol.
Mae disgwyl i Nick Bourne annerch y gynhadledd
|
Yna mae disgwyl iddo ymuno â chynadleddwyr o Gymru - gydag Aelodau'r Cynulliad yn gobeithio clywed geiriau i'w hysbrydoli cyn y frwydr etholiadol mis Mai nesa.
Yn ystod areithiau Mr Cameron, mi fydd pobl yn dymuno clywed penderfyniadau ar bolisi.
Yn Nhŷ'r Cyffredin mae'r Prif Weinidog, Tony Blair, wedi cyhuddo'r Ceidwadwyr o fod yn wrthwynebwyr heb unrhyw bolisďau pendant.
Yn amlwg, mae'r Torďaid wedi amddiffyn eu hunain, gan ddadlau eu bod nhw wedi cyflwyno nifer o bolisďau er enghraifft, eu cynlluniau i ddiwygio'r heddlu a'r syniad o greu Ddeddf Hawliau Prydeinig.
Yn ogystal, mae Mr Cameron, y beiciwr brwd, wedi denu llawer o sylw am ei agwedd tuag at yr amgylchedd.
Tystiolaeth
Mae wedi gado lleihau maint y carbon sy'n cael ei ollwng a'r addewid i fuddsoddi mwy mewn gwaith ymchwil a thechnoleg 'gwyrdd'.
Mae Mr Cameron wedi creu grwpiau polisi sy'n ymchwilio i chwe sialens benodol, sef, y sialens i wella gwasanaethau cyhoeddus; ansawdd bywyd; diogelwch y wlad; yr economi; tlodi byd-eang a chyfiawnder cymdeithasol.
Bydd logo newydd y blaid yn cael ei harddangos
|
Mi fydd y grwpiau yma yn cyflwyno eu tystiolaeth ddiwedd y flwyddyn.
Yn ôl y Ceidwadwyr, mae'r blaid yn bwriadu rhoi math newydd o wleidyddiaeth i Gymru - gan addo rhoi pwer yn nwylo pobl leol a chymunedau ar draws y wlad.
Fe fydd arweinydd y blaid yn y Cynulliad, Nick Bourne, yn cyflwyno prif themâu'r Ceidwadwyr ar gyfer etholiadau'r cynulliad 2007 yn ystod y gynhadledd.
Mae Mr Bourne a'i blaid yn hyderus mai agenda Geidwadol fydd yn gwasanaethu Cymru ore ac mae'r blaid yn cydio yn y cyfle yma hyd at fis Mai nesa i berswadio'r etholwyr.
Dydd Mawrth, fe fydd y cynadleddwyr yn cael profiad go wahanol pan fydd aelodau yn trafod datganoli.
Dyma'r tro cynta i drafodaeth o'r fath gael ei chynnal ar brif lwyfan cynhadledd y Ceidwadwyr ers 1999.
Cheryl Gillan, llefarydd Cymreig y Ceidwadwyr, fydd yn dadlau bod angen i'r blaid sicrhau fod datganoli yn gweithio'n effeithiol.
Yn hyderus, gyda Mr Cameron wrth y llyw, does dim amheuaeth bydd y Ceidwadwyr yn siarad am lywodraethu unwaith eto - yn San Steffan a Bae Caerdydd.
Gyda gwynt y môr a losin melys y traeth, mi fydd trafodaethau'r blaid yn siwr o fod llawn gobaith yn ystod yr wythnos ond y gamp nawr fydd sicrhau fod digon o sylwedd i ddenu hyder yr etholwyr ar ôl i'r hufen iâ doddi.